Mae ein prosiectau’n cyfuno profiadau ymarferwyr ag arbenigedd academaidd. Os oes gennych gwestiwn mewn perthynas â gweithgarwch corfforol, iechyd neu chwaraeon yng Nghymru, cysylltwch â ni heddiw! Does dim ots pa mor dda mae eich cwestiwn wedi’i lunio, byddwn yn gweithio gyda chi i'w ateb, gan ddefnyddio'r ystod unigryw o sgiliau, arbenigedd a chyfleusterau sy'n cael eu cynnig gan ein tîm Cymru gyfan. Gallwn hefyd nodi a oes gwaith tebyg yn cael ei wneud rywle arall yng Nghymru, neu gallwn gasglu gwybodaeth berthnasol sydd ar gael eisoes.

Ar ddiwedd prosiect, byddwn yn llunio cyfres o argymhellion ymarferol y gallwch eu rhoi ar waith mewn cyd-destun penodol. Byddwn hefyd yn helpu i hyrwyddo'r prosiect er mwyn cefnogi'r gwaith o rannu gwybodaeth â Chymru gyfan ac, yn wir, y tu hwnt iddi. 

Gallwch weld enghreifftiau o brosiectau perthnasol yma. 

kid running