Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014

Ski Competition

Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014, cafodd Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn Abertawe eu rhoi yn y 5ed safle yn y DU am Effaith Ymchwil* ac yn y 15fed safle yn y DU am ansawdd cyffredinol yr ymchwil.

Mae'r REF yn asesu ansawdd ymchwil yn y sector Addysg Uwch yn y DU, gan roi sicrwydd i ni ynglŷn â'r safonau rydym yn anelu atynt.

Ymchwil o'r Radd Flaenaf

Mae'r Fframwaith yn dangos bod 72% o ymchwil ein staff academaidd o'r radd flaenaf (4*) neu'n rhyngwladol ardderchog (3*).

Mae gwaith ymchwil arloesol ein staff academaidd yn llywio ein haddysgu gwych ac mae llawer o'n staff yn arweinwyr yn eu meysydd.

Un o uchafbwyntiau eraill REF yw bod ein Hamgylchedd Ymchwil Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff** wedi cael ei roi yn y 7fed safle yn y DU

Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff ymhlith y 10 gorau yn y DU am Effaith Ymchwil

Ffynhonnell: Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014

Sefydliad

%4* Gweithgaredd Ymchwil

GPA

Safle yn y DU

Bryste 100 4.00 1
John Moores Lerpwl 90 3.90 2
Loughborough 75 3.75 3
Bath 73 3.73 4
Abertawe 70 3.70 5
Met Caerdydd  (cyflwyniad ar y cyd â Bangor) 67 3.67 6
Bangor (cyflwyniad ar y cyd â Met Caerdydd) 67 3.67 6
Birmingham 60 3.60 8
Brunel 60 3.60 9
Surrey 60 3.60 10

Diffiniadau'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil

  • * Mae 'effaith' yn golygu unrhyw effaith ar, newid neu fudd i'r economi, cymdeithas, diwylliant, polisi cyhoeddus neu wasanaethau cyhoeddus, iechyd, yr amgylchedd neu ansawdd bywyd, y tu hwnt i'r byd academaidd.
  • ** Mae 'amgylchedd' yn cyfeirio at y strategaeth, yr adnoddau a'r seilwaith sy'n cefnogi gwaith ymchwil.