A montage of images

Trosolwg o'r Prosiect

Mae'r Grŵp Ymchwil Hylifau Cymhleth yn cynnwys y Labordy Microhylifeg Reolegol (a arweinir gan Dr Francesco Del Giudice), y Labordy Llif Cymhleth (a arweinir gan Dr Bjornar Sandnes) a'r Labordy Rheometreg Uwch (a arweinir gan Dr Dan Curtis a Dr Matthew Barrow). Gyda'i gilydd, mae gan y grŵp hanes helaeth o ddefnyddio dulliau arloesol i fynd i'r afael â phroblemau ym myd diwydiant a'r gymdeithas sydd ohoni. Mae gennym bortffolio o gydweithrediadau allanol gyda rhai o'r sefydliadau gorau gan gynnwys MIT, Canolfan Mathemateg Uwch Gwlad y Basg, Prifysgol Talaith Tecsas, Prifysgol Talaith Pennsylvania, Prifysgol Glasgow, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Rhydychen.

Canlyniadau'r Prosiect

  • Creu gronynnau wedi'u gwahanu'n gyfartal yn y llif lliflin microhylifegol gan ddefnyddio sawl ffurf ar hylifau cymhleth.
  • Crynhoi a chyd-grynhoi gronynnau gydag effeithlonrwydd sy'n uwch na'r gwerth stocastig o ganlyniad i synergedd dyluniad mircrohylifegol a ffurfiant hylifau cymhleth.
  • Datblygu dyfais ficrohylifeg ar gyfer mesur gludedd di-groeswasgiad ac amser llacio hiraf ar yr un pryd mewn hylifau fisgo-elastig isel mewn llai na 2 funud gan ddefnyddio llai na 500L o'r sampl.
  • Datblygu algorithm dysgu peirianyddol ar gyfer rhagweld amodau arbrofol gofynnol er mwyn creu defnynnau Newtonaidd o faint penodol ac ar radd gynhyrchu benodol.
  • Darganfod teulu newydd o batrymau llif 'gludiog sefydlog’ (Zhang et al., Nat. Commun., 2023).
  • Cymrodoriaeth Dynameg Hylifau Genedlaethol wedi'i dyfarnu i Dr Giles Morgan.
  • Datblygu rheometreg wedi'i seilio ar Chirp mewn cydweithrediad ag MIT ar gyfer nodweddu fisgo-elastig cyflym.

Newyddion ymchwil diweddaraf

  • Fideo effaith
  • Adnodd diagnostig newydd allai gyflwyno canlyniadau prawf iechyd mewn dwy funud
  • Ailbenodwyd yr Athro Gareth Mckinley o MIT yn Athro er Anrhydedd mewn Hylifau Cymhleth yn Abertawe.
  • Sicrhawyd cyllid SmartExpertise gyda WCPC i wella prosesau creu powdrau presyddu metalig a chaenau a gynhyrchir yn Wall Colmonoy gan ddefnyddio rheometreg uwch.
  • Dyfarnwyd Gwobr Flynyddol 2021 Cymdeithas Rheoleg Prydain i Dr Dan Curtis am 'gyfraniadau nodedig i reometreg'.

Prosiectau Allanol

Complex Fluids RG

Aelodau'r Grŵp

Dysgwch ragor am ein hymchwil

Ymweliad Prif Weinidog Cymru â'r Labordy

Complex Fluid Research Group