Enwyd Sefydliad Zienkiewicz ar gyfer Modelu, Data a Deallusrwydd Artiffisial ar ôl y diweddar Olek C Zienkiewicz (1921-2009) a fu'n Athro Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Abertawe o 1961 tan iddo farw. Roedd Zienkiewicz yn beiriannydd ac yn fathemategwr a chanddo weledigaeth eang o fodelu'r byd, a defnyddio cyfrifiaduron i greu ac archwilio data er mwyn datrys problemau peirianyddol. Arloesodd ddulliau elfennau meidraidd yn fathemategol ac yn gyfrifiadol ac yn enwedig, ehangodd yn enfawr y meysydd lle gellid eu rhoi ar waith.

Oherwydd brwdfrydedd a gwaith caled yr Athro Zienkiewicz, cafwyd cenedlaethau newydd o ymchwilwyr cyfrifiadol yn Abertawe ac mewn mannau eraill. Roedd yr Athro Lewis FREng, yr Athro Morgan FREng a'r diweddar Athro Owen FRS, FREng, ymhlith aelodau cynnar o Adran Peirianneg Sifil fwyfwy arloesol ac enwog Abertawe.

Wrth i ddylanwad gwyddor gyfrifiadol ehangu, daeth ymchwilwyr cyfrifiadol o ddisgyblaethau peirianneg gwahanol ynghyd i sefydlu, yn y lle cyntaf, Ganolfan Peirianneg Sifil a Chyfrifiadol, dan arweiniad, yn eu tro, yr Athro Bonet, yr Athro Morgan, yr Athro Hassan a'r Athro Nithiarasu. Er anrhydedd i’r Athro Zienkiewicz, cafodd y ganolfan hon ei henwi'n Ganolfan Zienkiewicz ar gyfer Peirianneg Gyfrifiadol.

Yn 2022, fel rhan o Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg newydd Prifysgol Abertawe, crëwyd Sefydliad Zienkiewicz i gefnogi modelu cyfrifiadol ar draws y disgyblaethau technegol, gan gydnabod y weledigaeth eang wreiddiol o fodelu, a'r dulliau cyfrifiadol ar sail AI newydd sy'n trawsnewid ein perthynas â data. Mae Sefydliad Zienkiewicz yn cynnwys nifer mawr o aelodau staff amser llawn, rhan-amser, staff academaidd emeritws, ymchwilwyr ôl-ddoethurol, ymchwil annibynnol a myfyrwyr graddedig. Mae'n darparu cymuned adnabyddadwy yn Abertawe ar gyfer ein hymchwilwyr rhyngwladol a'n grwpiau ymchwil amrywiol o fri.

OLGIERD (OLEK) CECIL ZIENKIEWICZ (18 MAI 1921 – 2 IONAWR 2009)

Mae'r Athro Olgierd Cecil Zienkiewicz wedi'i gydnabod yn rhyngwladol fel un o dri datblygwr arloesol y Dull Elfennau Meidraidd (FEM) - y lleill yw John Argyris a Ray Clough. Mae FEM yn dechneg fathemategol ar sail cyfrifiadur sydd, ers y 1960au, wedi chwyldroi dulliau dylunio a dadansoddi mewn peirianneg sifil, fecanyddol, awyrofod a meysydd peirianneg eraill.

Ar y dechrau, roedd y broses o greu’r dull yn dilyn ymagwedd peirianneg adeileddol draddodiadol ond, wrth i'r sylfaen fathemategol gael ei deall a'i hestyn, bu modd ei roi ar waith mewn disgyblaethau eraill. Mae'r fethodoleg yn parhau'n bwnc ymchwil ffyniannus, a dangoswyd bod ganddi botensial sylweddol i'w defnyddio mewn meysydd gwyddonol newydd, gan gynnwys peirianneg fiofeddygol a'r gwyddorau bywyd.

Am fanylion pellach, gallwch ddarllen:

D Roger J Owen, Olgierd (Olek) Cecil Zienkiewicz

https://collections.swansea.ac.uk/s/swansea-2020/page/zienkiewicz

John V Tucker, The Computer Revolution and Us: Computer Science at Swansea University from the 1960s