Mae tîm Ymchwil Gymhwysol ar gyfer Atebion Cylchol (ARCS) yn cyflwyno amrywiaeth o brosiectau ymchwil ac arloesi’r economi gylchol, sy'n manteisio ar ystod eang o arbenigedd ym Mhrifysgol Abertawe a thu hwnt.
Agwedd allweddol ar ein gwaith yw'r rhaglen gymorth Arloesi Cylchol a ariennir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Rydym yn gweithio ar sail prosiect penodol, felly mae'r gefnogaeth a ddarparwn wedi'i theilwra i faint, sector, gwybodaeth am yr economi gylchol ac uchelgeisiau eich sefydliad. Mae hyn yn adlewyrchu mai cyfyngiadau amser, adnoddau a gwybodaeth yw'r rhwystrau a grybwyllir amlaf i nodi a gweithredu cyfleoedd yr economi gylchol.