Dyddodiad anwedd cemegol metelorganig

Trosolwg o'r Ganolfan: Mae'r Ganolfan MOCVD Ocsid a Chalcogenid yn y Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludol Integreiddiol newydd ar Gampws y Bae Abertawe. Fel system deunyddiau seilio, gall lled-ddargludyddion ocsid a chalcogenid chwarae rhan fawr ym mlaenoriaethau buddsoddiad allweddol y DU drwy lenwi bwlch argyfyngus a mynd i’r afael â blaenoriaeth strategol EPSRC ar gyfer "Deunyddiau’r 21 Ganrif" newydd lle mae nodweddion lled-ddargludol yn cael eu defnyddio mewn cynnyrch clyfar, newydd. Mae'r Ganolfan yn cefnogi'r prif amcanion a nodir ym Mhapur Gwyn Strategaeth Ddiwydiannol newydd y DU yn uniongyrchol drwy alluogi arloesedd deunyddiau uwch sy'n hanfodol i ynni glân, electroneg pŵer, technolegau digidol, a gweithgynhyrchu'r dyfodol. 

Wrth wraidd y Ganolfan mae teclyn MOCVD pen cawod wedi'i gyplu'n agos AIXTRON sef dyfarniad Cyfarpar Strategol gan EPSRC (EP/T019085/1). Mae'r teclyn ymchwil hwn yn mynd i'r afael â blaenoriaeth "diwydiannau cynaliadwy" drwy alluogi gweithgynhyrchu mwy effeithlon o ddeunyddiau lled-ddargludol cenhedlaeth nesaf, ar raddfa fawr, sy'n seiliedig ar gyfansoddion ag elfennau toreithiog o'r ddaear a swyddogaethol. Mae'r Ganolfan yn cefnogi portffolio amrywiol o ymchwil i blatfformau deunyddiau allweddol â pherthnasedd uniongyrchol i drawsnewidiad ynni glân, gwydnwch lled-ddargludol, a galluoedd synhwyro uwch y DU.

AIXTRON CCS 3 x 2" MOCVD System

Peiriannau Aixtron

Mae Galiwm Ocsid, gyda'i fwlch ynni (bandgap) eang iawn a'i faes ymddatodiad uchel, yn cael ei ddatblygu yn y Ganolfan ar gyfer electroneg pŵer effeithlonrwydd uchel a ffotosynwyryddion UV dwfn - sy'n allweddol i alluogi trydanu, effeithlonrwydd y grid ac offeryniaeth sy'n seiliedig ar y gofod. Mae aloiau CdTe a rhai perthynol II/VI yn cael eu hoptimeiddio ar gyfer dyfeisiau ffotofoltaidd sy'n oddefgar o ymbelydredd uchel, sy’n cefnogi uchelgeisiau cynyddol y DU mewn ynni solar sy'n seiliedig ar ofod a thechnolegau lloeren. Yn y cyfamser, mae TMDCs 2D digalcogenidau metel trawsnewid (transition metal dichalcogenides) yn cael eu harchwilio am eu potensial mewn dyfeisiau cynhaeafu ynni hyblyg, tenau iawn a synhwyro cemegol/biolegol, gan fanteisio ar eu rhyngweithiadau cryf a'u nodweddion electronig y gellir eu tiwnio.

Drwy gynnig platfform ar raddfa genedlaethol ar gyfer twf lled-ddargludyddion MOCVD ocsid a chalcogenid uwch, mae'r Ganolfan yn cataleiddio cydweithio ar draws y byd academaidd a'r diwydiant, gan gyflymu arloesedd deunyddiau, ac ategu nodau strategaeth diwydiannol ehangach y DU mewn twf glân, seilwaith digidol a galluoedd lled-ddargludyddion sofren.

Meysydd / themâu ymchwil: Dyddodiad anwedd cemegol metelorganig, chalcogenid ac ocsid, dyfeisiau ac is-systemau electronig, nodweddu deunyddiau, synthesis a thwf deunyddiau, dyfeisiau a chylchredau optoelectronig.

Nodau ymchwil: Bydd Canolfan MOCVD Ocsid a Chalcogenid yn helpu'r DU i ddatgloi potensial lled-ddargludyddion II-VI ac archwilio ocsidau a chalcogenidau newydd ym meysydd cyffrous III-VI megis TDM Ga2O3 a 2-D megis MoS2 a WSe2. Mae gan y DU gyfle euraidd i adeiladu ar ein cryfderau mewn ymchwil lled-ddargludyddion cyfansawdd a fydd yn sbarduno arloesedd ar draws ystod o ddyfeisiau optoelectroneg ac electroneg pŵer newydd. Bydd y Ganolfan MOCVD newydd yn helpu i fodloni'r galw am genhedlaeth newydd o ddeunyddiau lled-ddargludol cyfansawdd gweithredol i ddal nodweddion unigryw lled-ddargludyddion cyfansawdd ocsid a chalcogenid, gan ategu cyfansoddion III-V a silicon, ac agor meysydd cymhwyso newydd mewn optoelectronig, ynni a gofal iechyd.