Mae ychwanegu Prifysgol De Cymru (USW) at bartneriaeth ASTUTE 2020 yn cryfhau’r academyddion deinamig o’r radd flaenaf a’r swyddogion prosiect hynod gymwysedig sy’n perthyn i’r Sefydliadau Addysg Uwch o Gymru sy’n rhan o’r rhaglen honno. Bydd USW yn cefnogi cwmnïau gweithgynhyrchu yn Nwyrain Cymru, gan greu gwybodaeth y gellir ei defnyddio’n sail ar gyfer gweithredu a thywys penderfyniadau yn y broses weithgynhyrchu.
Mae Prifysgol De Cymru yn cyfrannu at ASTUTE 2020 trwy ei harbenigedd yn Ysgol Fusnes De Cymru, sy’n rhan o’r Gyfadran Busnes a Chymdeithas, ac mae’n defnyddio arbenigedd ar draws yr Ysgol ym meysydd systemau Gweithgynhyrchu, Rheoli Ansawdd, Rheoli Gweithrediadau, Cadwyn Gyflenwi a Logisteg, Marchnata Digidol a Strategaeth Fusnes.
Mae gwaith ymchwil yr Ysgol Fusnes yn cael ei drefnu o dan ganolfan ymchwil fusnes drosfwaol ar draws y disgyblaethau. Mae’r themâu a’r prosiectau ymchwil yn cael eu cydlynu o dan bedwar maes thematig, sef Cadwyn Gyflenwi a Gweithrediadau, Rheoli Adnoddau Dynol ac Arweinyddiaeth, Marchnata a Digwyddiadau ac Entrepreneuriaeth.
Mae’r Ysgol yn cefnogi myfyrwyr PhD a DBA sy’n gweithio ar brosiectau ar draws y meysydd thematig hyn.
Bydd USW yn ychwanegu medrusrwydd ymchwil cydweddus oddi mewn i thema arbenigedd Peirianneg Systemau Gweithgynhyrchu, gan ganolbwyntio ar ei chryfderau ym maes technolegau gweithgynhyrchu’r dyfodol.
Mae’r prosiectau ymchwil a’r cyhoeddiadau’n cynnwys y pynciau canlynol: