Astudiaeth Achos: Cambrian Printers Ltd.

Mae Argraffwyr Cambrian yn gwmni argraffu masnachol yn Aberystwyth, yn arbenigo mewn argraffu niferoedd isel o ddogfennau mewn lliw ar gyfer cylchgronau, llyfrau, catalogau a llyfrynnau. Maent yn gweithredu 24 awr y dydd gan gynhyrchu cylchgronau a llyfrynnau ar gyfer cwsmeriaid ledled y DU.

Mae bod ar waith 24 awr y dydd yn golygu na all yr arbenigedd gorau fod ar y safle bob amser, ac yr oedd y rheolwyr eisiau archwilio dichonoldeb technegol cymryd data o’r systemau monitro masnachol a’u darparu i reolwyr ar ffonau clyfar.

Heriau

Canlyniad yr astudiaeth ddichonoldeb gan ASTUTE ac Argraffwyr Cambrian yw system sy’n darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i reolwyr am berfformiad a statws pob peiriant y mae staff yn gweithio arnynt ar unrhyw adeg, a statws pob archeb ac anfoneb. Mae modd i’r rheolwyr osod y feddalwedd fel ei bod yn cysylltu â hwy drwy’r ffôn os bydd amodau penodol yn digwydd, e.e. os bydd peiriant argraffu allweddol ddim yn gweithio am fwy na dwy awr.

Effaith

Mae’r meddalwedd monitro wedi dangos ei bod yn bosibl galluogi staff rheoli gweithgareddau i gadw llygad yn fwy effeithiol ar yr hyn sy’n digwydd yn y ffatri gan ddefnyddio’u ffonau clyfar. Mae hyn yn gwella effeithlonrwydd ac amser gweithredol peiriannau argraffu. Mae hefyd yn rhoi’r arfau i reolwyr gadw golwg well ar yr hyn sy’n digwydd yn y ffatri, ac yn gwneud Argraffwyr Cambrian yn fwy cystadleuol o ganlyniad.