Rydym yn helpu'r diwydiant pecynnu ac argraffu wella ansawdd a lleihau gwastraff

Rydym yn helpu'r diwydiant pecynnu ac argraffu i wella ansawdd a lleihau gwastraff

Yr Her

Mae'r sector argraffu fflecsograffig wedi bodoli ar wahanol ffurfiau ers y 15fed ganrif, gan ddod yn ddiwydiant gwerth biliynau o ewros (€40.2 biliwn y flwyddyn (2017).

Mae'r datblygiadau technolegol sy'n gyfrifol am y prosesau pecynnu ac argraffu labeli a welwn bob dydd wedi bod yn sylweddol, ond mae'r heriau o ran gwella ansawdd yr argraffu, dyluniad y cyfarpar, cymhwysiad y prosesau yn ogystal â lleihau gwastraff wrth argraffu yn parhau i fod yn amlwg iawn yn y sector hwn.

Mae ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe yng Nghanolfan Argraffu a Chaenu Cymru (WCPC), dan arweiniad yr Athro David Gethin, wedi mynd i'r afael â'r heriau hyn, gan ddarparu gwelliannau sylweddol i argraffwyr fflecsograffig ar raddfa fyd-eang.

Y Dull

Roedd ymchwil Abertawe yn canolbwyntio ar wella ansawdd yr argraffu trwy well proffilio o ran arwyneb yr argraffu [R1, R2].

Mae'r datblygiadau mewn mesur cyfeintiau'n fanwl gywir ar gyfer celloedd ysgythredig, rhyddhau inc, a modelu llifoedd inc gydag olrhain ffilamentau wedi gwella gallu argraffwyr fflecsograffig trwy alluogi'r systemau i ddiffinio'r ongl argraffu a'r llinell gyswllt [R3, R4].

Bu i ddatblygiad arall o ran dylunio delweddau a gosod prosesau wella'r gwaith o drosglwyddo delweddau ar gyfer cynnal traciau mewn dyfeisiau gweithredol. Ymhellach, gostyngwyd yr amser caledu 100x, gan leihau'r amser sychu yn aruthrol, a galluogi argraffu cyfaint uchel am y tro cyntaf [R5, R6].

Cefnogwyd y gwaith ymchwil hwn gan grantiau oddi wrth Lywodraeth Cymru (ESF, ERDF), Rhaglen H2020 FP7, ac Innovate UK, gwerth cyfanswm o £1.7 miliwn.

Yr Effaith

Mae Prifysgol Abertawe wedi gweithio'n helaeth gyda'r gadwyn gyflenwi gyfan yn y diwydiant argraffu fflecsograffig, gan gael effaith sylweddol ar raddfa fyd-eang.

Yn seiliedig ar ymchwil Prifysgol Abertawe, datblygwyd offer metrolegol newydd gan Troika Systems, gan arwain at arbedion amlwg gwerth £428 miliwn y flwyddyn o ran costau cynhyrchu, a gostyngiad o 15% mewn gwastraff materol a arweiniodd at arbed £90 miliwn o gostau'r flwyddyn. Cefnogodd astudiaethau o ran mecanweithiau trosglwyddo inc gynhyrchion plât ffotopolymer newydd ar gyfer Asahi Photoproducts, gan arwain at ostyngiad o 30% yn yr amser rhedeg a chynnydd o 20% yn ei werthiannau plât byd-eang. Cyfrannodd ymchwil Prifysgol Abertawe hefyd at fuddsoddiad ymchwil a datblygu strategol gwerth €20 miliwn gan y gwneuthurwyr gweisg blaenllaw, UTECO. Lluniodd Prifysgol Abertawe ganllaw arfer gorau ar gyfer y sector, wedi'i gymeradwyo gan Gymdeithas Dechnegol Fflecsograffig Ewrop (FTA Europe). Trwy ddarparu Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP), mae ansawdd y prosesau a chystadleurwydd wedi cynyddu, gan wneud fflecsograffeg y brif broses ar gyfer argraffu deunydd pacio.

Cyd-awduron: Tim Claypole, Davide DeganelloChris Phillips

Dotiau lliw coch ar gefndir glas
Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSDG 9 - innovation
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe