Rydym yn ymdrechu i wneud gwahaniaeth ac i'n hymchwil gael effaith wirioneddol.

Nod ein strategaeth effaith yw cynyddu cyrhaeddiad ac arwyddocâd buddion economaidd, cymdeithasol, iechyd a gwybodaeth sy'n deillio o'n hymchwil. Rydym yn cefnogi esblygiad syniadau ymchwil o lefelau sylfaenol i allbynnau sy’n fasnachol hyfyw ac sy’n cael effaith.

Rydym wedi nodi’r sectorau effaith canlynol:

  • Diwydiant - mae ein hanes cryf o gydweithio diwydiannol wedi arwain at lawer o fanteision economaidd ac amgylcheddol gyda chwmnïau fel Rolls-Royce UTC, Tata Steel ac Airbus.
  • Iechyd - mae ein hymchwil yn ymgysylltu â chyrff sector cyhoeddus fel y GIG a diwydiant mewn meysydd o reometreg uwch ar gyfer hylifau cymhleth i gymwysiadau fferyllol ac iechyd.
  • Ymgysylltu â'r Cyhoedd - mae ein gwaith gyda Bloodhound SSC a'r prosiectau ynni positif a charbon niwtral wedi gadael i ni rannu ein hymchwil, cysyniadau peirianneg a gwybodaeth gyda'r byd.