Yr anturiaeth ddiweddaraf ym myd peirianneg

Bloodhound

Prifysgol Abertawe a BLOODHOUND

Mae gan y Coleg Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe hanes hir a helaeth o gydweithredu diwydiannol, gan gyfrannu’n sylweddol i nifer o brosiectau blaenllaw, gan gynnwys dyluniad aerodynamig Car Uwchsonig THRUST, sy’n dal record y byd ar gyfer cyflymder ar y tir, a’r dyluniad aerodynamig o Gar Uwchsonig BLOODHOUND.

Yn sgîl y prosiect hwn, bydd y Peirianneg ynghlwm wrth y gwaith o wthio terfynau peirianneg ac mae’n ehangu ar lwyddiant blaenorol ein gwaith ar Gar Uwchsonig THRUST.

Mae’r ymchwil ym maes Dynameg Hylifau Cyfrifiadurol (CFD) ar gyfer BLOODHOUND SSC yn cael ei gwneud yng Nghanolfan Zienkiewicz er Peirianneg Gyfrifiadurol. Mae’r modelau cyfrifiadurol hyn eisoes wedi dylanwadu ar agweddau dylunio sylweddol ar BLOODHOUND gan gynnwys cyfluniad yr olwynion blaen, ffurf y big, ffurfiant mewnlif y peiriannau jet, llilinwyr yr olwynion cefn yn ogystal â ffurf a maint yr adenydd. Mae’r modelu CFD yn parhau i fod gyda’r offer mwyaf blaenllaw a ddefnyddir i ddatblygu geometreg arwyneb BLOODHOUND.

Beth yw dynameg hylifau cyfrifiadurol?

BLOODHOUND: blog fideo 1

Trac BLOODHOUND LSR

BLOODHOUND: blog fideo 2

Dewch i gwrdd â Dr Ben Evans

Rôl yn y Prosiect: Mae Ben yn aelod allweddol o dîm dylunio BLOODHOUND SSC ac mae’n gyfrifol am efelychiadau CFD aerodynameg y cerbyd.

Ynghylch bod yn Beiriannydd: “Ers imi gofio mae mathemateg a ffiseg wedi fy nghyfareddu. Rwy bob amser wedi mwynhau gofyn y cwestiwn ‘ond pam mae’n digwydd felly?’ ac wedi ceisio dod o hyd i atebion i broblemau.

Wrth reswm, roedd hyn wedi fy arwain i gymryd fy Safon Uwch Ffiseg a Mathemateg hyd y cam nesaf, sef cymhwyso’r damcaniaethau roeddwn i’n eu dysgu yn yr ysgol i’r heriau yn y ‘byd go iawn’.

Un o’r ffyrdd amlwg o gyflawni hyn oedd astudio Peirianneg. Erbyn diwedd fy ngradd israddedig mewn Peirianneg Awyrofod ac Aerothermol roedd hi’n teimlo’n iawn imi barhau yn y byd academaidd ac felly cychwynnais ar PhD ym Mhrifysgol Abertawe mewn maes o’r enw dynameg hylifau cyfrifiadurol (CFD).

Roedd yn dod yn amlwg imi fod ymchwilwyr yn mynd i’r afael â’r rhan fwyaf o broblemau aerodynamig yn yr 21ain ganrif, yn rhannol o leiaf, gan ddefnyddio’r technegau modelu cyfrifiadurol newydd yr oedd Prifysgol Abertawe wedi ennill enwogrwydd iddi’i hun yn sgîl ei harloesedd yn y maes hwn.

Yn rhyfedd ddigon, symud i Abertawe oedd yr hyn oedd wedi arwain at gael y cyfle imi gymryd rhan ym mhrosiect BLOODHOUND SSC ac ymuno â’r tîm dylunio er mwyn gweithio ar aerodynameg ar y cyd â Ron Ayers.