Darlith Zienkiewicz

DARLITH ZIENKIEWICZ 2023

Caiff Darlith Zienkiewicz 2023 ei ffrydio'n fyw o Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe nos Fercher 22 Tachwedd o 6pm (sylwer oherwydd cyfyngiadau lle rhaid derbyn gwahoddiad i ddod i'r digwyddiad yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau).

Bydd y siaradwr gwadd, yr Arglwydd Darzi o Denham OM KBE PC FRS, Cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Arloesedd Iechyd Byd-eang yng Ngholeg Imperial Llundain, Llawfeddyg Ymgynghorol yn Ymddiriedolaeth y GIG Coleg Imperial ac Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Royal Marsden, yn traddodi darlith o'r enw "Health Care Transformation through Science and Technology".

Lord Darzi

Siaradwr Gwestai Yr Athro yr Arglwydd Darzi o Denham OM KBE PC FRS

Mae’r Athro Darzi yn Gyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Arloesi Iechyd Byd-eang yng Ngholeg Imperial, Llundain ac ef yw deiliad Cadair Llawdriniaeth Paul Hamlyn. Mae’n Llawfeddyg Ymgynghorol yn Ymddiriedolaeth y GIG Coleg Imperial ac Ymddiriedolaeth Sefydliad y GIG Royal Marsden. Yr Athro Darzi yw Cadeirydd Cydweithrediad Mynediad Carlam y GIG, Cyfarwyddwr Cwrs Rhaglen Arweinyddiaeth Iechyd Digidol y GIG a Chadeirydd y Fenter Meddygaeth Ragataliol a Diogelwch Iechyd yn Flagship Pioneering yn y DU.

Mae’r Athro Darzi yn arwain tîm ymchwil academaidd a pholisi rhyngddisgyblaethol mawr, sydd wedi cyhoeddi dros 1,500 o bapurau ymchwil a adolygwyd gan gymheiriaid. Mae’r rhain yn canolbwyntio ar wyddoniaeth gydgyfeirio ym meysydd peirianneg, gwyddor ffisegol a gwyddor data, yn benodol ym meysydd roboteg a thechnolegau synhwyro, delweddu, digidol a deallusrwydd artiffisial. Mae’n Gymrawd o Academi y Gwyddorau Meddygol a’r Gymdeithas Frenhinol, Cymrawd er Anrhydedd o’r Academi Frenhinol Peirianneg a chyn-lywydd Cymdeithas Wyddoniaeth Prydain.

Yn 2002, cafodd yr Athro Darzi ei urddo’n farchog am ei wasanaethau i feddygaeth a llawdriniaeth, ac yn 2007, cafodd ei gyflwyno’n Arglwydd Darzi o Denham i Dŷ’r Arglwyddi yn y DU fel Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Iechyd. Mae ef wedi bod yn aelod o Dra Anrhydeddus Gyfrin Gyngor ei Fawrhydi ers 2009 a dyfarnwyd yr Urdd Teilyngdod iddo yn 2016.

Bob blwyddyn rydym yn cynnal Darlith Zienkiewicz lle rydym yn croesawu siaradwr gwadd o ddiwydiant ac yn cynnal cinio ffurfiol yn Abertawe.

Bob blwyddyn rydym yn cynnal Darlith Zienkiewicz lle rydym yn croesawu siaradwr gwadd o ddiwydiant ac yn cynnal cinio ffurfiol yn Abertawe.

ZL webpage