Mae ein Cymdeithasau Myfyrwyr yn rhoi cyfle i chi ddod i adnabod pobl o'r un meddylfryd, i ddatblygu eich rhwydwaith cymorth astudio ac i wella eich cyflogadwyedd.

Aerospace Society logo

Dylech ystyried gymryd rhan yn y Gymdeithas Peirianneg Awyrofod. Mae'n ffordd wych o wella eich gradd trwy gwrdd â chymheiriaid â'r un diddordebau â chi, gwneud ffrindiau newydd a chael amser gwych yn ein digwyddiadau a'n digwyddiadau cymdeithasol. Mae'r digwyddiadau'n cynnwys digwyddiadau Cymdeithasol, Sesiynau Efelychu Hedfan (at ddibenion hwyl neu ymarfer) ac ystod eang o ddigwyddiadau megis ein cynhadledd diwedd blwyddyn a'n sgyrsiau gan Gyn-fyfyrwyr!

Tudalen Facebook: https://www.facebook.com/SUAerospaceSociety/
Gwefan: https://www.swansea-union.co.uk/activities/society/aerospace/

Chemical Engineering Society (logo)

Mae CEES yn rhoi'r cyfle i chi wneud ffrindiau ar eich cwrs, derbyn cyngor gan fyfyrwyr mewn blynyddoedd uwch, ac rydym hefyd yn eich helpu i rwydweithio â graddedigion Prifysgol Abertawe a myfyrwyr Blwyddyn Mewn Diwydiant sy'n dychwelyd. 

Rydym yn cynnal teithiau i Barc Trampolinio Limitless, cwisiau tafarn, nosweithiau bowlio a phethau megis sesiynau chwaraeon drwy gydol y flwyddyn. Rydym hefyd yn cynnal nosweithiau allan yn Abertawe. Yn olaf, rydym yn helpu i gydlynu'r daith ar gyfer digwyddiad IChemE Frank Morton bob blwyddyn.

Civil Engineering Society (logo)

Mae ein CIVSocialites yn mwynhau amrywiaeth o gyfleoedd rhwydweithio megis sgyrsiau ac ymweliadau â safleoedd a gynhelir mewn partneriaeth ag ICE ac Academi Cyflogadwyedd Abertawe yn ogystal â chynulliadau cymdeithasol rhagorol. Mae'r digwyddiadau cymdeithasol yn amrywio o nosweithiau â thema o amgylch y dref i ddigwyddiadau cymdeithasol dim alcohol megis Parc Trampolinio Limitless, bowlio deg a llawer mwy.

Facebook: https://www.facebook.com/SwanseaCIVSOC  
Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Abertawe: bit.ly/CIVSOC-SU  

Electronic and Electrical Engineering Society (logo)

Mae cymdeithas EEE yn gweithio ag IET ar y Campws i gynnig ystod o ddigwyddiadau cymdeithasol a phroffesiynol i aelodau drwy gydol y flwyddyn, ac mae'n ffordd dda o gwrdd â phobl newydd ac o gymdeithasu a derbyn cyngor gan fyfyrwyr o bob grŵp blwyddyn.

Facebook: https://www.facebook.com/groups/836162713094928/
E-bost: electronicandelectrical@swansea-societies.co.uk

Materials Engineering Society (logo)

Diben y Gymdeithas Peirianneg Ddeunyddiau yw dod ag addysg a diwydiant ynghyd. Drwy gydol bob tymor rydym yn cynnal ymweliadau â diwydiant, darlithoedd gan Gymdeithas Deunyddiau De Cymru, ac wrth gwrs digwyddiadau cymdeithasol i roi cyfle i bobl ddod i adnabod myfyrwyr o bob grŵp blwyddyn.

Rydym hefyd yn helpu i gynnig cyfleoedd y tu allan i'r Brifysgol drwy helpu i gynnal teithiau megis i'r Labordy Niwclear Ffiseg yn Genefa a hefyd leoliadau gwaith dros yr haf a gweithgareddau STEM.

Facebook: https://www.facebook.com/groups/719630278115590/

Mechanical Engineering Society (logo)

Mae'r Gymdeithas Peirianneg Fecanyddol yn ôl eleni gan gynnig llawer o ddigwyddiadau newydd gan gynnwys gweithdai, nosweithiau astudio, nosweithiau ffilm, digwyddiadau cymdeithasol a chystadlaethau.  Cymrwch ran!

Facebook: https://www.facebook.com/groups/345390215922963/
Twitter: @SUMechEngSoc

Medical Engineering Society (logo)

Mae'r Gymdeithas Peirianneg Feddygol yn cynnal ystod o sesiynau academaidd a digwyddiadau cymdeithasol, ac mae'n darparu ardal i fyfyrwyr ysbrydoli, cydweithredu a datblygu fel cymuned o beirianwyr ifainc. Mae'r gymdeithas hefyd yn rhywle i gymdeithasu a rhwydweithio gan roi cyfle i roi ac i dderbyn cyngor a chymorth.

Facebook: @SwanseaMedEngSociety

Women in Engineering Society (logo)

Mae Cymdeithas Menywod Abertawe ym Maes Peirianneg yn gymdeithas a arweinir gan fyfyrwyr sy'n rhan o Undeb y Myfyrwyr a Chymdeithas Menywod ym Maes Peirianneg ryngwladol. Rydym yn cynnal nifer o ddigwyddiadau cymdeithasol a digwyddiadau ac un o'n prif amcanion yw rhwydweithio a chysylltu â pheirianwyr wrth gymdeithasu a mwynhau bod yn fyfyriwr yn Abertawe.

Gwnewch y mwyaf o'ch amser yn Abertawe ac ymunwch â ni!

Facebook: https://www.facebook.com/WES1919
Twitter: https://twitter.com/wes1919

Swansea University Race Engineering (logo)

Mae bod yn rhan o dîm Peirianneg Rasio Prifysgol Abertawe yn rhoi cyfle unigryw i fyfyrwyr o bob cwrs gymryd rhan yng nghylch bywyd cyfan prosiect peirianneg: o'r cysyniadau dylunio cychwynnol, y gwaith adeiladu a phrofi, i'r foment gynderfynol - rasio'r car. Ymunwch â ni i wneud cyfeillgarwch hir oes ac i ennill profiad ymarferol a chreu cysylltiadau amhrisiadwy ar gyfer dyfodol disglair ar ôl gadael y Brifysgol.

Facebook: https://www.facebook.com/SwanseaRacing
Twitter: https://twitter.com/SwanseaRacing