2006: Rachel Trezise

Rachel Tresize, yr awdur o Gymru, oedd enillydd cyntaf Gwobr Dylan Thomas yn 2006 gyda’i llyfr Fresh Apples, casgliad di-flewyn ar dafod o straeon byrion ‘arsylwadol, llawn hiwmor du’ a amlygodd ei harddull ddigyffro a hyderus. Ail lyfr Rachel oedd Dial M for Merthyr, hanes gwir ei hamser ar y ffordd gyda’r band roc Cymreig, Midasuno.

Yn ogystal â ffuglen a llyfrau ffeithiol, mae hi hefyd yn ysgrifennu dramâu, gan gynnwys rhai ar gyfer y radio, megis Lemon Meringue Pie, a gafodd ei darllediad cyntaf ar BBC Radio 4 yn 2008.  Yn 2019, cafodd ei drama, Cotton Fingers, a gomisiynwyd fel rhan o Ŵyl NHS70 Theatr Genedlaethol Cymru, dderbyniad brwd yng Ngŵyl Ymylol Caeredin, lle enillodd Wobr Lustrum am ragoriaeth, a chafodd ei chynnwys ar restr fer Gwobr Gŵyl Ymylol Caeredin Broadway World.

2006: Rachel Trezise, 'Fresh Apples' Book Cover

Crynodeb - 'Fresh Apples'

Dyw Sarah ddim yn anarferol nac yn hyll, dim ond ychydig yn dew ac mae ganddi barlys yr ymennydd. "Doedd e’ ddim yn drais, na hyd yn oed yn ymyrraeth, yn bendant...mae hi’n un deg pedwar oed, dim yn blentyn. Dwi ddim yn baedoffilydd."

Roedd mam Gemma wedi cael rhyw gyda Tom Jones. Does yna neb yn gwybod pwy oedd ei thad; mae ei mam yn gwybod yn llai na neb.

Dyw Spiderman ddim am orfodi ei bersona fel chwiwleidr ar Caitlin, sy’n dawel ac yn annibynnol, ond, yn y diwedd, mae’n dod oddi ar y bws wrth ei safle hi.

Pan fydd ieir ei thad-cu yn dechrau pigo ei gilydd, gan swnio’n hanner marw, mae Chelle yn rhoi tro yng ngwddf un ohonynt ond, yn y diwedd, mae’n gwneud rhywbeth gwaeth. Mae ei chosb garedig, bwrpasol yn arwain at fwy o barch at yr hen ddyn.

Cyfweliadau

Rachel Trezise - Enillyd 2006

Yn y bennod hon, mae intern o’r Sefydliad Diwylliannol Ashish Dwivedi yn siarad â’r awdur arobryn Rachel Trezise