2012: Maggie Shipstead

Gan dorri ‘ei llwybr unigryw a syfrdanol ei hun’, enillodd Maggie Shipstead Wobr Ryngwladol Dylan Thomas yn 2012 gyda’i nofel gyntaf, Seating Arrangements. Enillodd y nofel Wobr yr L.A. Times am Lyfr Ffuglen Cyntaf hefyd.

Yn dilyn llwyddiant ei nofel gyntaf, yn ei hail nofel, Astonish Me a gyhoeddwyd yn 2014, trodd Maggie ei llygad unigryw am gymeriadaeth a dychan i fyd bale proffesiynol. Ar hyn o bryd, mae hi’n ysgrifennu trydedd nofel, Great Circle, a gyhoeddir yn 2021.

Yn ogystal, mae Maggie yn parhau i gyfrannu at gyhoeddiadau megis The New York Times, y Washington Post a Condé Nast Traveler

2012: Maggie Shipstead, 'Seating Arrangements' book cover

Crynodeb - 'Seating Arrangements'

Mae Winn Van Meter yn mynd i encilfa ei deulu ar ynys gysefin Lloegr Newydd, Waskeke. Fel arfer, mae’r lle hwn yn lloches dawel ond, am y tri diwrnod nesaf, bydd y lloches wedi’i hysbeilio gan ddathlwyr hanner meddw wrth i Winn baratoi at briodas ei ferch, Daphne, â’r mab hoffus ifanc, Greyson Duff.

Mae gwraig Winn, Biddy, wedi cynllunio’r briodas yn fanwl, ond mae’r trefniadau’n cael eu diystyru oherwydd storm camymddygiad anllad a chwant anhydrin: mae chwaer Daphne, Livia, sydd wedi torri ei chalon yn ddiweddar oherwydd Teddy, Fenn, sef mab cystadleuwr hynaf ei thad, yn darged awyddus castiau dengar gwas priodas Greyson; Mae Winn, yn hytrach na mwynhau gwneud ei ddyletswyddau patriarchaidd, mewn ing oherwydd ei gariad ffôl hirsefydlog at forwyn briodas ddengar Daphne, Agatha; ac mae’r briodferch a’r priodfab yn canfod eu hunain yng nghanol sioe awydd anaddas, anffyddlondeb priodasol a cholled ffydd mewn arferion bywyd Americanaidd.

Cyfweliadau

Maggie Shipstead - Enillyd 2012

Yn y bennod hon, mae intern o’r Sefydliad Diwylliannol Niall Macgregor yn siarad â’r awdur arobryn Maggie Shipstead.