2017: Fiona McFarlane, 'The High Places'

Creodd Fiona McFarlane – a aned yn Sydney – argraff dda ar y beirniaid yn 2017 gyda’i chasgliad o straeon byrion, The High Places, gwaith o ‘athrylith’, sy’n amrywio o’r ‘swreal i’r cellweirus’ ac sy’n neidio o gyfnod i gyfnod, o le i le ac o genre i genre.

Mae McFarlane wedi derbyn cymrodoriaethau gan y Ganolfan Gwaith Celfyddydau Cain yn Provincetown, Academi Phillips Exeter a Chyngor y Celfyddydau Awstralia. Mae ei gwaith wedi ymddangos mewn cyhoeddiadau megis Zoetrope: All-Story, The New Yorker a Best Australian Stories.

Roedd ei nofel gyntaf, The Night Guests, hefyd yn llwyddiannus gan ennill Gwobr Lenyddol Voss a lle ar restrau fer Gwobr Stella a Gwobr Llyfr Cyntaf The Guardian.

2017: Fiona McFarlane, 'The High Places' Book Cover

Crynodeb - 'The High Places'

Am beth ofnadwy ar adeg fel hon: i berchen ar dŷ a’r coed o’i amgylch. Eisteddodd Janet yn anystwyth yn ei sedd. Cododd yr awyren o’r ddinas a diflannodd ei thŷ o’r golwg, wedi’i lyncu gan y tai eraill. Roedd Janet yn poeni am ei gardd ei hun, ei rhewgell wedi’i gwagio a’i lampau a oedd wedi’u hamseru i gynnau am chwech.

Felly mae “Mycenae” yn dechrau, sef stori yng nghasgliad straeon cyntaf Fiona McFarlane, The High Places. Mae ei straeon yn cwmpasu cyfandiroedd, cyfnodau a genres, gan nodi ffiniau bywyd emosiynol. Yn “Mycenae”, mae’n disgrifio gwyliau trychinebus cwpl canol oed gyda hen ffrindiau. Yn "Good News for Modern Man", mae gwyddonydd yn byw ar ynys fach gyda dim ond scwid enfawr ac ysbryd Charles Darwin yn gwmni iddo. Ac yn y stori deitl, mae ffermwr Awstralaidd yn troi at ddulliau’r Hen Destament i leddfu sychder marwol. Mae pob un stori’n archwilio’r hyn y galwodd Flannery O’Conner yn “ddirgelwch a moesau”. Mae’r casgliad yn archwilio’r teimladau--hiraeth, dirmyg, cariad, ofn--sy’n bywiogi’n bodolaeth ac yn awgrymu bod realiti y tu hwnt i fychander ein bywydau.

Galwodd Laura Miller o Salon The Night Guest gan McFarlane yn “nofel sy’n treiddio emosiynau mewn ffordd annaearol . . . Sut gallai unrhyw un mor ifanc bortreadu, mewn ffordd mor ddarbwyllog, sut mae’n teimlo i edrych yn ôl ar lawer mwy o fywyd nag y gallwch ei weld o’ch blaen? Mae The High Places yn dystiolaeth ychwanegol o ddawn oruwchnaturiol McFarlane, yn gasgliad cychwynnol sy’n darllen fel gwaith dethol awdur athrylith.

Datganiadau i'r Wasg

Cyfweliadau

Fiona McFarlane - Enillydd 2017

Yn y bennod hon, mae intern o’r Sefydliad Diwylliannol Ashish Dwivedi yn siarad â’r awdur arobryn Fiona McFarlane.