2013: Claire Vaye Watkins, 'Battleborn'

Battleborn, casgliad o straeon byrion gan Claire Vaye Watkins, a anwyd yng Nghaliffornia, a gipiodd y wobr yn 2013. Canmolodd y beirniaid ei gallu i greu ‘fersiwn berffaith o fyd cyflawn’ ym mhob un o’i straeon. Enillodd y casgliad lawer o wobrau, gan gynnwys The Story Prize (2012) a Gwobr Sefydliad y Teulu Rosenthal gan Academi’r Celfyddydau a Llenyddiaeth America (2012).

Cyhoeddwyd ail lyfr Claire – a’i nofel gyntaf – Gold Flame Citrus, yn 2015 i ganmoliaeth fawr gan y beirniaid ac mae ei thraethodau a’i straeon byrion wedi’u cyhoeddi mewn amrywiaeth o gyhoeddiadau, gan gynnwys Granta, The Paris Review a The New York Times.

2013: Claire Vaye Watkins -'Battleborn' Book Cover

Crynodeb - 'Battleborn'

Fel gwaith Cormac McCarthy, Denis Johnson, Richard Ford ac Annie Proulx, mae Battleborn yn cynrychioli cyfuniad rhwng teimladrwydd â gosodiad sy’n agos at fod yn berffaith, ynghyd â chyflwyno llais llenyddol gwreiddiol sy’n eithriadol o bwerus. Ym mhob un o’r deg stori fythgofiadwy, mae Claire Vaye Watkins yn ysgrifennu am fytholeg gorllewin America, gan ei hailddychmygu’n gyfan gwbl. Mae ei chymeriadau’n gysylltiedig ag ardaloedd enfawr y rhanbarth, gan ennill achubiaeth er gwaethaf – ac weithiau oherwydd – y caledi a’r trais maent yn eu dioddef. Mae cyrhaeddiad dieithryn yn trawsnewid y cyfnewid o erotiaeth ac emosiwn mewn ransh buteiniaeth.

Mae meudwy sy’n chwilio am elw’n darganfod terfynau ei unigoliaeth rymus pan fydd yn ceisio achub person ifanc sy’n cael ei gam-drin. Degawdau ar ôl iddi arwain ei ffrind gorau i gyfarfod darostyngol mewn ystafell westy yn Vegas, mae menyw yn teimlo’r ôl-gryndod. Yn ddewraf oll, mae Watkins yn mynd i’r afael â’i hetifeddiaeth gythryblus ei hun – ac yn ei hailddyfeisio – mewn stori sy’n deillio o dryblith a dinistriad Helter Skelter. O elfennau ysgubol ac aruchel i elfennau manwl a phersonol; o ruthro am aur i dref anghyfannedd i anialwch i buteindy, mae’r casgliad yn atseinio arwyddair ei thalaith enedigol yn ei deitl, ond hefyd yn ei ysbryd ffyrnig, anorthrech.

Datganiadau i'r Wasg

Cyfweliadau

Claire Vaye Watkins - Enillydd 2013

Yn y bennod hon, mae intern o’r Sefydliad Diwylliannol Niall Macgregor yn siarad â’r awdur arobryn Claire Vaye Watkins.