Mae ein cystadleuaeth adolygu rhestr fer 2021 yn mynd yn fyd-eang!

Mae Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn un o’r gwobrau uchaf eu parch ar gyfer ysgrifenwyr ifanc 39 oed ac yn iau. Cafodd ei sefydlu yn 2006 i ddathlu rhagoriaeth lenyddol ac mae’r enillwyr blaenorol yn cynnwys Guy Gunaratne, Kayo Chingonyi, Max Porter, Maggie Shipstead, Lucy Caldwell, Joshua Ferris a Claire Vaye Watkins.

Rydym yn eich gwahodd i adolygu un o'r llyfrau sydd ar ein rhestr fer #SUDTP21  gydag uchafswm o 200 o eiriau.

Bydd detholiad o adolygiadau yn cael ei gynnwys mewn oriel ar-lein ar wefan Gwobr Dylan Thomas ar Ddiwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas, 14 Mai 2020.

Er mwyn cymryd rhan: dylid ysgrifennu pob adolygiad yn Saesneg. Gellir cyflwyno uchafswm o ddau adolygiad y person. Dylid cyflwyno ceisiadau'n electronig i cultural-institute@abertawe.ac.uk erbyn dydd Mawrth 4 Mai.

Rhaid i chi gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, gan gynnwys eich cyfeiriad e-bost presennol.