Mae Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas yn falch o gyhoeddi rhestr hir 2019.

Adjei Brenyah, Nana-Kwame (c) Limitless Imprint Entertainment

Nana Kwame Adjei-Brenyah, Friday Black (Houghton Mifflin Harcourt (US) and Riverrun (UK))
Nana Kwame Adjei-Brenyah yw awdur Friday Black, gwerthwr gorau’r New York Times. Yn wreiddiol o Spring Valley, Efrog Newydd, graddiodd o SUNY Albany ac aeth ymlaen i dderbyn ei MFA o Brifysgol Syracuse. Mae ei waith wedi ac yn parhau i ymddangos mewn nifer o gyhoeddiadau, gan gynnwys y New York Times Book Review, Esquire, Literary Hub, the Paris Review, Guernica, a Longreads. Cafodd ei ddewis gan Colson Whitehead fel un o unigolion anrhydeddus “5 Under 35” Sefydliad Cenedlaethol y Llyfr. [credyd y llun i Limitless Imprint Entertainment]

Michael Donkor

Michael Donkor, Hold (4th Estate)
Ganwyd Michael Donkor yn Llundain, i rieni o Ghana. Astudiodd Saesneg yn Coleg Wadham, Rhydychen, cyn astudio gradd Feistr mewn Ysgrifennu Creadigol yn Royal Holloway ac mae bellach yn dysgu Llenyddiaeth Saesneg i ddisgyblion ysgol uwchradd. Mae llawer o’r materion yn ei nofel yn agos at ei galon, ac enillodd le ar Gynllun Ysbrydoli, Canolfan Awduron Norwich yn 2014 drwy ysgrifennu, dyna ble derbyniodd flwyddyn o fentora gan Daniel Hahn.

Clare Fisher - credit Justine Stoddart

Clare Fisher, How the Light Gets In (Influx Press)
Ganwyd a magwyd Clare Fisher yn Tooting, de Llundain yn 1987. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, All the Good Things, gan Viking, Penguin yn 2017. Cyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf o straeon byrion, How The Light Gets In, gan Influx Press yn 2018. Mae hi bellach yn byw yn Leeds. [credyd y llun i Justine Stoddart]

Zoe Gilbert - credyd y llun Lucy Johnston

Zoe Gilbert, Folk (Bloomsbury Publishing)
Zoe Gilbert yw enillydd Gwobr Stori Fer Costa 2014. Ymddangosodd ei gwaith ar BBC Radio 4, mewn antholegau a chyfnodolion yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae wedi cymryd rhan mewn prosiectau yn Tsieina a De Corea ar gyfer y Cyngor Prydeinig, ac mae’n cwblhau PhD am storïau gwerinol mewn ffuglen gyfoes. Yn gyd-sylfaenwr y London Lit Lab, sy’n darparu cyrsiau ysgrifennu a mentora ar gyfer awduron, mae’n byw ar yr arfordir yn Kent. [credyd y llun i Lucy Johnston]

Emma Glass - credyd y llun Sarah Lee

Emma Glass, Peach (Bloomsbury Publishing)
Ganwyd Emma Glass yn Abertawe. Astudiodd Lenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Kent, cyn penderfynu bod yn nyrs ac aeth yn ôl i astudio Nyrsio Plant ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hi’n byw ac yn gweithio yn Llundain. Peach yw ei llyfr cyntaf. [credyd y llun i Sarah Lee]

Guy Gunaratne

Guy Gunaratne, In Our Mad and Furious City (Tinder Press, Headline)
Magwyd Guy Gunaratne yng Ngogledd Orllewin Llundain a gweithiodd fel dylunydd, gwneuthurwr ffilm a newyddiadurwr fideo gan sôn am ardaloedd ar ôl gwrthdaro ar draws y byd, yn ogystal â chyd-sylfaenu dau gwmni technoleg.  Cyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Stori Fer BAME y Guardian a 4th Estate.

-- ENILLYDD 2019 -- 

_________________________________________________________

Louisa Hall - photo credit Alex Trebus

Louisa Hall, Trinity (Ecco)
Magwyd Louisa Hall yn Philadelphia. Hi yw awdur y nofelau Speak a The Carriage House, mae ei barddoniaeth wedi cael ei chyhoeddi yn The New Republic, Southwest Review a chyfnodolion eraill. Mae’n Athro ym Mhrifysgol Iowa, ac yn Awdur Gorllewinol ym Mhreswyliad Prifysgol Talaith Montana. [credyd y llun i Alex Trebus]

Sarah Perry

Sarah Perry, Melmoth (Serpent’s Tail)
Ganwyd Sarah Perry yn Essex yn 1979. Hi fu awdur preswyl yn Llyfrgell Gladstone ac UNESCO Dinas Llenyddiaeth y Byd, Prague. Hi yw awdur After Me Comes the Flood, enillydd y Wobr Llyfr y Flwyddyn East Anglia, a The Essex Serpent, sef gwerthwr gorau rhif un, enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn Waterstones ac enillodd Llyfr y Flwyddyn yng Ngwobrau Llyfrau Prydeinig y Flwyddyn. Mae ei gwaith wedi cael ei gyfieithu i ugain o ieithoedd. Mae’n byw yn Norwich.

Sally Rooney - image credit Jonny L Davies

Sally Rooney, Normal People (Faber & Faber)
Ganed Sally Rooney yn 1991 ac mae’n byw yn Nulyn.  Mae ei gwaith wedi ymddangos yn y New Yorker, Granta, The White Review, a chylchgronau ac antholegau eraill. Roedd ei nofel gyntaf, Conversations with Friends, yn Llyfr y Flwyddyn y Sunday Times, Observer a Telegraph. Cafodd ei rhoi ar restr fer Gwobr Stori Fer EFG y Sunday Times ac enillodd y Wobr Awdur Ifanc y Flwyddyn y Sunday Times/PFD. Cafodd ei hail nofel, Normal People, ei rhoi ar restr hir y Wobr Man Booker. Hi yw golygydd The Stinging Fly. [credyd y llun i Jonny L. Davies]

Richard Scott

Richard Scott, Soho (Faber & Faber)
Magwyd Richard Scott yn Llundain ac astudiodd yn y Royal College of Music ac yn Goldsmiths College. Mae wedi ennill y Wobr Wasafiri New Writing, wedi bod yn rhan o raglen fentora Jerwood/Arvon Poetry, ac yn un o ‘Aldeburgh Eight’ y Poetry Trust. Enillodd ei bamffled, ‘Wound’ (Rialto), Gwobr Farddoniaeth Michael Marks 2016 a bu i’w gerdd ‘Crocodile’ ennill Cystadleuaeth Farddoni Llundain 2017. Soho yw ei gyfrol gyntaf.

Novuyo Rosa Tshuma - credyd y llun i Kewla Books

Novuyo Rosa Tshuma, House of Stone (Atlantic Books)
Magwyd Novuyo Rosa Tshuma yn Zimbabwe, mae hi wedi byw yn Ne Affrica ac UDA. Mae’n raddedig o Weithdy Awduron Iowa. Ymddangosodd ei ffuglen fer mewn nifer o antholegau, a llwyddodd i ennill Gwobr Herman Charles Bosman 2014 am y gwaith llenyddol gorau yn Saesneg. [credyd y llun i Kwela Books]

Jenny Xie - credyd y llun i Teresa-Mathew

Jenny Xie, Eye Level (Graywolf Press)
Jenny Xie yw awdur Nowhere to Arrive, derbynnydd Gwobr Drinking Gourd Chapbook, ac mae ei cherddi wedi ymddangos yn yr American Poetry Review, y New Republic, Poetry, Tin House ac eraill. Mae’n byw yn Efrog Newydd ac mae’n dysgu ym Mhrifysgol Efrog Newydd. Eye Level yw ei chasgliad diweddaraf. [credyd y llun i Teresa Mathew]