Cyhoeddi Rhestr Hir 2018

Mae enillydd Gwobr Baileys am Ffuglen Menywod a derbynnydd Gwobr Geoffrey Dearmer ymysg y 12 llyfr ar restr hir Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas gwerth £30,000 a ddyfernir mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe.

Dyfernir y wobr am y gwaith llenyddol cyhoeddedig gorau yn Saesneg gan awdur 39 oed neu'n iau. Fe'i henwyd ar ôl yr awdur o Abertawe, Dylan Thomas, ac mae'n dathlu 39 o flynyddoedd o greadigrwydd a chynhyrchedd ganddo. Ac yntau'n un o ysgrifenwyr mwyaf dylanwadol a byd-enwog canol yr ugeinfed ganrif, mae'r wobr er cof amdano yn cefnogi ysgrifenwyr heddiw ac yn meithrin doniau yfory. 

Wedi'i lansio yn 2006, Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, yw'r wobr lenyddol fwyaf gwerthfawr yn y byd i ysgrifenwyr ifanc.

Mae'r rhestr hir o 12 llyfr eleni'n cynnwys: wyth nofel, dau gasgliad o straeon byrion a dwy gyfrol o farddoniaeth.

International Dylan Thomas Prize Longlisted books 2018

Mae'r awdur Kayo Chingonyi, a aned yn Sambia, yn ymuno ag awduron o'r DU, Iwerddon, America, India a Nigeria ar y rhestr hir i gystadlu am y wobr o £30,000.

• Ayọ̀bámi Adébáyọ̀Stay With Me (Canongate Books)

• Kayo ChingonyiKumukanda (Vintage - Chatto & Windus)

• Meena KandasamyWhen I Hit You (Atlantic Books)

• Lisa McInerneyThe Blood Miracles (John Murray)

• Carmen Maria MachadoHer Body and Other Parties (Serpent's Tail / Graywolf)

• Fiona MozleyElmet (JM Originals)

• Gwendoline RileyFirst Love (Granta)

• Sally RooneyConversations With Friends (Faber & Faber)

• Emily RuskovichIdaho (Vintage - Chatto & Windus)

• Gabriel TallentMy Absolute Darling (4th Estate / Riverhead Books)

• Eley WilliamsAttrib. and Other Stories (Influx Press)

• James WomackOn Trust: A Book of Lies (Carcanet Press)

Y llynedd, Fiona McFarlane enillodd Wobr Ryngwladol Dylan Thomas am ei llyfr clodwiw iawn, The High Places - casgliad bythgofiadwy o straeon byrion syfrdanol. Yn ddiweddar, mae McFarlane wedi derbyn dyfarniad o $20k gan Gyngor Celfyddydau Awstralia i dreulio cyfnod preswyl rhyngwladol yn Stiwdio BR Whiting yn Rhufain yn 2018-19.

Cadeirydd y panel beirnadu eleni yw'r Athro Dai Smith CBE, Athro Emeritws Raymond Williams  ar gyfer Ymchwil i Hanes Diwylliannol Cymru. Aelodau eraill y panel yw: y bardd, y cyfieithydd a'r ysgolhaig, yr Athro Kurt Heinzelman; y nofelydd a'r dramodydd, Rachel Trezise; y dramodydd a'r awdur, Paul McVeigh; a'r ysgrifennwr, y cyhoeddwr a'r cyfarwyddwr gŵyl Namita Gokhale.

Meddai'r Athro Dai Smith CBE: "Mae'r rhestr hir eleni yn dangos gwreiddioldeb a rhagoriaeth lenyddol gwaith sy'n cael ei greu gan ysgrifenwyr ifanc o bob cwr o'r byd. Gan gynnwys rhyddiaith a barddoniaeth gan awduron newydd a sefydledig, dyma restr hir ddiddorol a brawychus o dda! Bydd tasg y beirniaid yn anodd iawn, ond gallwn fod yn sicr y bydd gennym restr fer eithriadol o gryf o chwe awdur â dawn syfrdanol."

Cyhoeddir y rhestr fer o chwe llyfr ar ddiwedd mis Mawrth.

Datgelir yr enillydd ddydd Iau 10 Mai yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe, cyn Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas ar 14 Mai.