Adjei Brenyah, Nana-Kwame (c) Limitless Imprint Entertainment

Nana Kwame Adjei-Brenyah, Friday Black (Houghton Mifflin Harcourt (US) and Riverrun (UK))
Nana Kwame Adjei-Brenyah yw awdur Friday Black, gwerthwr gorau’r New York Times. Yn wreiddiol o Spring Valley, Efrog Newydd, graddiodd o SUNY Albany ac aeth ymlaen i dderbyn ei MFA o Brifysgol Syracuse. Mae ei waith wedi ac yn parhau i ymddangos mewn nifer o gyhoeddiadau, gan gynnwys y New York Times Book Review, Esquire, Literary Hub, the Paris Review, Guernica, a Longreads. Cafodd ei ddewis gan Colson Whitehead fel un o unigolion anrhydeddus “5 Under 35” Sefydliad Cenedlaethol y Llyfr. [credyd y llun i Limitless Imprint Entertainment]

Zoe Gilbert - credyd y llun Lucy Johnston

Zoe Gilbert, Folk (Bloomsbury Publishing)
Zoe Gilbert yw enillydd Gwobr Stori Fer Costa 2014. Ymddangosodd ei gwaith ar BBC Radio 4, mewn antholegau a chyfnodolion yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae wedi cymryd rhan mewn prosiectau yn Tsieina a De Corea ar gyfer y Cyngor Prydeinig, ac mae’n cwblhau PhD am storïau gwerinol mewn ffuglen gyfoes. Yn gyd-sylfaenwr y London Lit Lab, sy’n darparu cyrsiau ysgrifennu a mentora ar gyfer awduron, mae’n byw ar yr arfordir yn Kent. [credyd y llun i Lucy Johnston]

Guy Gunaratne

Guy Gunaratne, In Our Mad and Furious City (Tinder Press, Headline)
Magwyd Guy Gunaratne yng Ngogledd Orllewin Llundain a gweithiodd fel dylunydd, gwneuthurwr ffilm a newyddiadurwr fideo gan sôn am ardaloedd ar ôl gwrthdaro ar draws y byd, yn ogystal â chyd-sylfaenu dau gwmni technoleg.  Cyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Stori Fer BAME y Guardian a 4th Estate.

-- ENILLYDD 2019 -- 

_________________________________________________________

Louisa Hall - photo credit Alex Trebus

Louisa Hall, Trinity (Ecco)
Magwyd Louisa Hall yn Philadelphia. Hi yw awdur y nofelau Speak a The Carriage House, mae ei barddoniaeth wedi cael ei chyhoeddi yn The New Republic, Southwest Review a chyfnodolion eraill. Mae’n Athro ym Mhrifysgol Iowa, ac yn Awdur Gorllewinol ym Mhreswyliad Prifysgol Talaith Montana. [credyd y llun i Alex Trebus]

Sarah Perry

Sarah Perry, Melmoth (Serpent’s Tail)
Ganwyd Sarah Perry yn Essex yn 1979. Hi fu awdur preswyl yn Llyfrgell Gladstone ac UNESCO Dinas Llenyddiaeth y Byd, Prague. Hi yw awdur After Me Comes the Flood, enillydd y Wobr Llyfr y Flwyddyn East Anglia, a The Essex Serpent, sef gwerthwr gorau rhif un, enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn Waterstones ac enillodd Llyfr y Flwyddyn yng Ngwobrau Llyfrau Prydeinig y Flwyddyn. Mae ei gwaith wedi cael ei gyfieithu i ugain o ieithoedd. Mae’n byw yn Norwich.

Novuyo Rosa Tshuma - credyd y llun i Kewla Books

Novuyo Rosa Tshuma, House of Stone (Atlantic Books)
Magwyd Novuyo Rosa Tshuma yn Zimbabwe, mae hi wedi byw yn Ne Affrica ac UDA. Mae’n raddedig o Weithdy Awduron Iowa. Ymddangosodd ei ffuglen fer mewn nifer o antholegau, a llwyddodd i ennill Gwobr Herman Charles Bosman 2014 am y gwaith llenyddol gorau yn Saesneg. [credyd y llun i Kwela Books]