'CYFEILLGARWCH'
Fel rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas – sy'n cael ei ddathlu ar 14 Mai bob blwyddyn – eleni, mae DylanED yn gwahodd plant ysgol rhwng 8 ac 11 oed i gymryd rhan mewn cystadleuaeth arbennig iawn.
Thema'r gystadleuaeth eleni yw ‘Cyfeillgarwch’.
Gan ddilyn camre Dylan Thomas, llenor ac adroddwr straeon mwyaf blaenllaw Abertawe, mae'r gystadleuaeth yn chwilio am blant ysgol rhwng 8 ac 11 oed i gyflwyno stori fer (100 gair), cerdd neu lun sy'n rhoi gwybod i ni am eu ffrindiau a'r hyn y mae cyfeillgarwch yn ei olygu iddynt. Gall ffrindiau fod yn rhai go iawn neu'n rhai dychmygol, yn gyd-ddisgyblion, yn aelodau teulu neu efallai hyd yn oed hoff anifail anwes – hoffem glywed am bob un ohonynt!
*Rhaid i'r holl geisiadau gael eu cyflwyno drwy athro/ysgol y plentyn.
Bydd yr enillydd cyffredinol yn derbyn bag llawn pethau da a thystysgrif. Bydd ceisiadau dethol yn cael eu cynnwys mewn arddangosfa ar-lein i ddathlu 'Diwrnod Dylan'.
Dylid cyflwyno ceisiadau'n electronig erbyn dydd Gwener 21 Ebrill 2023 i cultural-institute@abertawe.ac.uk dan y teitl ‘Cyfeillgarwch’.