Croeso i'r Adran Gwleidyddiaeth, Athroniaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol

Ochr yn ochr ag ymchwil arloesol ein hacademyddion sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang, mae sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael profiad gwych ac yn dysgu sgiliau newydd allweddol wrth wraidd ein hadran. Rydym yn gwneud hyn drwy wreiddio sgiliau cyflogadwyedd ym mhob rhan o’n cwricwlwm, gan ddarparu cysylltiadau cryf â'r byd gwaith, a chynnal ystod o fentrau cyflogadwyedd sydd o fudd i fyfyrwyr, megis sesiynau gyrfaoedd a sgiliau rheolaidd, ac ystod o ddarlithoedd gwadd a digwyddiadau rhwydweithio.

Rydym yn herio ein myfyrwyr i ymchwilio i'r materion eang a chymhleth sy'n deillio o'r ffordd y mae ein cymdeithasau'n cael eu trefnu ar hyn o bryd yn wleidyddol, gartref ac yn rhyngwladol, a sut dylid neu gellid eu trefnu'n well yn y dyfodol.

Rydym hefyd yn cynnig cyfleusterau sy'n arwain y sector i'n myfyrwyr, gan gynnwys mannau astudio a chymdeithasol dynodedig, ac yn cynnig cymorth eithriadol i sicrhau bod myfyrwyr yn cyflawni eu nodau drwy ein Tîm Gwybodaeth Myfyrwyr, ein Tîm Cyflogadwyedd a'n Tiwtoriaid Personol ymroddedig.