Jo Edwards

Athrawes Llywodraeth a Gwleidyddiaeth

Dewisais ddod i Abertawe am ei bod yn ddinas neis a phrysur, ac ni allaf wadu bod lleoliad y Brifysgol ar lan y môr yn atyniad mawr hefyd. Mae'r ffaith ei bod yn brifysgol gampws yn creu awyrgylch gwych yma; mae'n ddigon mawr fel bod llawer o bethau i'w gwneud yma, ond ddim yn rhy fawr fel eich bod yn un mewn torf. Dewisais y cwrs am fod llawer o ddewis. Rwyf wedi astudio modiwlau Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, ac yn fy mlwyddyn olaf, ces i gyfle i gymryd modiwl interniaeth yn gweithio yng Nghynulliad Cymru, a oedd yn brofiad ardderchog – ac eithaf dadlennol." Ces i weld 'y tu ôl i lenni' gwleidyddiaeth Cymru. Pan ddes i Brifysgol Abertawe gyntaf, ces i Lyfryn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, â'r geiriau 'Agorwch eich meddwl' ar y clawr. Pedair blynedd yn ddiweddarach, gallaf ddweud yn ddiamau i mi wneud hynny. Mae astudio Gwleidyddiaeth yn rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau, i ddod o hyd i atebion, ac yna i ofyn mwy o gwestiynau newydd! Mae awyrgylch cynnes a chroesawgar yn yr Adran, ac mae'r darlithwyr a'r staff eraill yn gwneud eu gorau er mwyn i chi deimlo'n gartrefol.