Menyw yn didoli bwyd

Rhaglen Adnoddau a Gweithredu ar Wastraff

Cefndir

Comisiynodd y Rhaglen Adnoddau a Gweithredu ar Wastraff (WRAP) dîm Gwasanaethau Masnachol Prifysgol Abertawe i’w cynorthwyo wrth ddatblygu eu model partneriaeth i ailddosbarthu bwyd dros ben. Mae WRAP yn rhaglen genedlaethol sydd â’r nod o leihau a, lle bynnag y bo modd, ailddefnyddio gwastraff bwyd a gynhyrchir mewn amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys gweithgynhyrchu, lletygarwch a manwerthu.

Yr Her

Gofynnwyd i’r tîm Gwasanaethau Masnachol:

  1. sefydlu cynllun peilot i ailddosbarthu bwyd ar y cyd ag archfarchnadoedd Morrisons yn Abertawe a Chaerdydd
  2. creu model gweithredol a llawlyfr i sefydliadau eu defnyddio wrth roi eu cynlluniau ailddosbarthu bwyd eu hunain ar waith
  3. darparu cyngor ynghylch sut gall myfyrwyr gwirfoddoli gynorthwyo mewn cynlluniau tebyg

Mynd i’r Afael â’r Her

Aeth y tîm ati i recriwtio gwirfoddolwyr o blith ein myfyrwyr, a manteisiodd ar gefnogaeth ar draws Prifysgol Abertawe, gan ddefnyddio arbenigedd mewn meysydd megis rheoli gwastraff, gwyddorau bwyd, cynaladwyedd, cyfathrebu ac ymgysylltu.

O ganlyniad i’r ffordd hon o weithio, llwyddodd y tîm i:

  • nodi rhanddeiliaid a phartneriaid posib ar gyfer y cynlluniau yng Nghaerdydd ac Abertawe a dod â nhw ynghyd.
  • gweithio gyda’r gymuned leol a’r timau Cydlynu Ardal Leol i helpu i wneud dosbarthu bwyd dros ben yn sylfaen ar gyfer ymgysylltu ag aelodau’r gymuned sy’n profi arwahanrwydd cymdeithasol.
  • cynnal cynllun peilot ailddosbarthu gwastraff bwyd yn Abertawe, gan weithio gyda WRAP, cynllun gwirfoddoli Prifysgol Abertawe, Darganfod, Morrisons a nifer o’r elusennau a fyddai’n elwa o’r cynllun
  • creu fframwaith manwl o weithrediadau a chanllawiau ‘sut i’w wneud’ ar gyfer cynlluniau ailddosbarthu bwyd yn y dyfodol

Canlyniadau Llwyddiannus

Cynhaliodd y tîm o Brifysgol Abertawe gynllun peilot llwyddiannus, gan helpu WRAP i sefydlu model cynaliadwy i roi cynlluniau partneriaeth tebyg ar waith ar gyfer ailddosbarthu bwyd
dros ben.

Ar ôl i’r prosiect peilot ddod i ben, cychwynnwyd digwyddiad ymgysylltu cymunedol wythnosol sydd, hyd yn hyn, wedi gwasanaethu miloedd o bobl leol ar sail ‘talu fel y mynnwch’.

"Mae potensial go iawn i ddefnyddio myfyrwyr fel gwirfoddolwyr i gefnogi cynlluniau yng Nghymru a ledled y DU, ac mae’n werth ei wneud, ond mae cefnogaeth eu prifysgolion yn bwysig – i ddarparu cyfleusterau, gwybodaeth ac adnoddau. Credwn fod llawer o brifysgolion ledled y DU yn awyddus i gefnogi eu cymunedau lleol a, thrwy gymryd rhai camau cymharol fach, gallant wneud gwahaniaeth sylweddol."
Christine Watson MBE, Cyfarwyddwr Cynllun Gwirfoddoli Darganfod

Os oes gennych brosiect a allai elwa o gydweithio â Phrifysgol Abertawe, cysylltwch â ni