CUBO awards ceremony sign

Cefndir

Ym mis Gorffennaf 2019, cynhaliwyd cynhadledd haf o fri Swyddogion Busnes Colegau a Phrifysgolion (CUBO) ym Mhrifysgol Abertawe. Gan gynrychioli prifysgolion ledled y DU ac Iwerddon, CUBO yw'r "gymdeithas broffesiynol ar gyfer uwch-reolwyr gwasanaethau masnachol a champws prifysgolion" a'i nod yw "hyrwyddo rhagoriaeth wrth ddatblygu bywyd campws a phrofiad y myfyrwyr." 

 

Her

Cynhadledd Haf CUBO yw’r prif ddigwyddiad yng nghalendr CUBO, ac roedd angen cynllunio'n ofalus iawn ar gyfer digwyddiad mor adnabyddus. O ganlyniad, roedd angen i Brifysgol Abertawe gynnig atebion arloesol i 3 her allweddol:

  1. Un safle addas ar gyfer 300 o gynadleddwyr ac arddangoswyr
    Roedd CUBO o'r farn bod hyn yn bwysig ond yn anodd dod o hyd iddo. Nid oedd nifer o leoliadau'n cynnig llety, neu roedd angen i gynadleddwyr deithio cryn bellteroedd rhwng preswylfeydd, ystafelloedd cyfarfod a mannau arddangos. Ar gyfer Cynhadledd Haf 2019, roedd CUBO yn awyddus i gynnig lleoliad bach a chyfleus i gynadleddwyr, gyda phopeth o fewn tafliad carreg.

  2. Mynediad gwych i arddangoswyr
    Yn ôl adborth o gynadleddau CUBO yn y gorffennol, pwysleisiwyd bod arddangoswyr yn teimlo nad oeddent yn cael digon o amser i ryngweithio â chynadleddwyr yn ystod y gynhadledd. Roeddent naill ai wedi'u lleoli o'r prif sesiynau llawn a mannau ymneilltuo, neu roeddent wedi'u rhannu ar draws sawl lleoliad lle roedd y niferoedd ymweld yn amrywio. Roedd CUBO yn benderfynol o weithredu ar yr adborth hwn a chynnig profiad gwell i arddangoswyr yn 2019. 

  3. Ychwanegu ffactor 'waw'
    Mae'r cynadleddwyr sy'n dod i Gynhadledd Haf CUBO yn mynd i nifer o gynadleddau yn y diwydiant bob blwyddyn, felly roedd yn bwysig i'r trefnwyr fod CUBO yn unigryw ac yn cynnig profiad gwahanol i gynadleddwyr. 
Merched mewn darlithfa
Pobl yn siarad â'i gilydd mewn stondin cynhadledd
menywod yn didoli cacennau bach

Ateb

Mae Campws y Bae Prifysgol Abertawe yn lleoliad perffaith i gynadleddau, gyda llety, ystafelloedd cyfarfod, man arddangos ac ardaloedd bwyta oll o fewn 3 munud o'i gilydd.Roedd digon o arwyddion yn y digwyddiad, a gosodwyd ôl-traed dros dro ar y llawr i helpu i arwain cynadleddwyr rhwng mannau. Codwyd pabell gadarn â digon o le ynddi ar y gwair y tu ôl i'r Neuadd Fawr, lle cynhaliwyd y gynhadledd. 

Roedd yr arddangosfa, lluniaeth a chinio yn y babell. Dyma ateb delfrydol i arddangoswyr a chynadleddwyr, oherwydd bod pob stondin yr un mor amlwg ac agored yn ystod y gynhadledd. Roedd y babell, gan wynebu'r môr, yn cynnig lleoliad godidog i gynadleddwyr fwynhau cinio, rhwydweithio ac ymlacio rhwng sesiynau.

Cynhadledd Haf CUBO 2019 oedd y gynhadledd gyntaf i gael ei chynnal yng Nghymru am amser maith, felly gweithiodd Prifysgol Abertawe yn agos gyda threfnwyr y gynhadledd i gynnig ychydig o nodweddion Cymreig yn y gynhadledd. Pobwyd pice ar y maen ffres yn y babell, a rhoddwyd poteli bach o wirodydd a ddistyllwyd yng Nghymru ym mhob un o'r ystafelloedd gwely. Creodd y tîm arlwyo mewnol, gan ddefnyddio'r cynnyrch gorau o Gymru, fwydlen bwrpasol ar gyfer y Cinio Mawreddog – a chafwyd canmoliaeth wresog gan gynadleddwyr. Roedd y trefnwyr o'r farn mai'r Neuadd Fawr oedd un o'r lleoliadau gorau roeddent weithio gweithio gydag ef, gyda'r offer clyweledol mewnol yn cael effaith drawiadol ar y noson ddathlu.

Canlyniadau

"Roedd Prifysgol Abertawe'n lleoliad syfrdanol ar gyfer Cynhadledd Haf CUBO 2019. Roeddem wrth ein boddau â'r campws cyfleus a bach ger y traeth. Roedd yr holl neuaddau preswyl, ystafelloedd cyfarfod a mannau bwyd yn hawdd eu cyrraedd, ac roedd y babell arddangos ger y neuadd fawr yn cynnig man delfrydol i gynadleddwyr ac arddangoswyr rwydweithio!

Roedd y cinio mawreddog yn rhagorol ac roedd y nodweddion Cymreig, fel y pice ar y maen ffres a'r cynnyrch lleol yn cyfrannu at y ffactor 'waw.' Rydyn yn falch iawn ein bod ni wedi dewis prifysgol abertawe fel y lleoliad ar gyfer Cynhadledd Haf CUBO.

Enillwyr Gwobr CUBO

Os ydych yn bwriadu cynnal cyfarfod, digwyddiad neu gynhadledd yn 2020, cysylltwch â ni gael gwybod sut gallwn eich cynorthwyo