Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar Fonitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil.
8.1Rhaid i’r Coleg gadarnhau ymgeisyddiaeth pob ymgeisydd o fewn tri mis i gofrestriad cychwynnol yr ymgeisydd fel y nodir yn y Canllawiau ar Fonitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil.
8.2Os nad yw’r Coleg yn gallu cadarnhau ymgeisyddiaeth ymgeisydd o fewn tri mis i'w gofrestriad cychwynnol, efallai y bydd raid i'w ymgeisyddiaeth gael ei gohirio neu efallai y bydd raid iddo adael y rhaglen.
8.3Caiff cynnydd ymgeisydd yn ystod y cyfnod ymgeisyddiaeth byrraf ei fonitro yn rheolaidd gan y Bwrdd Dilyniant Ymchwil Ôl-raddedig er mwyn penderfynu a ellir caniatáu ymgeisydd i symud ymlaen. Caiff cynnydd ei fonitro ar adegau penodol fel y nodir yng Nghanllawiau'r Brifysgol ar Fonitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil.
8.4Bydd ymgeiswyr sy’n mynd y tu hwnt i gyfnod byrraf posibl eu hymgeisyddiaeth yn parhau i gael eu monitro’n rheolaidd gan y Bwrdd Dilyniant Ymchwil Ôl-raddedig hyd nes y cyflwynir y traethawd ymchwil neu hyd ddiwedd yr ymgeisyddiaeth.
8.5Os bernir bod cynnydd ymgeisydd yn anfoddhaol, efallai y caiff yr ymgeisydd ei orfodi i drosglwyddo rhaglen, neu ei orfodi i dynnu’n ôl o’r rhaglen.
8.6Yng nghyd-destun paragraffau 8.2 a 8.5 uchod, bydd gan ymgeiswyr hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau academaidd yn unol â gweithdrefnau Prifysgol Abertawe ar gyfer Cywirdeb y Marciau a Gyhoeddwyd neu ei gweithdrefnau ar gyfer Apeliadau Academaidd.