Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil.
14.1Bydd pob Bwrdd Arholi ar gyfer ymgeiswyr yn cynnwys yr unigolion canlynol:
Bydd Cadeirydd y Bwrdd yn annibynnol yn y broses arholi a bydd yn atebol i’r Bwrdd Academaidd ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig parthed cynnal yr arholiad.
14.3Ni chaniateir i oruchwylwyr yr ymgeisydd nac unrhyw aelod o staff sydd ynghlwm wrth oruchwylio’r ymgeisydd fod yn rhan o’r Bwrdd Arholi, ond gall Cadeirydd y Bwrdd Arholi eu gwahodd, wedi cael caniatâd ysgrifenedig penodol yr ymgeisydd ymlaen llaw, i fynychu’r arholiad llafar mewn rôl ymgynghorol. Ni chaiff ymgynghorydd siarad ond ar ôl cael ei wahodd i wneud hynny gan y Cadeirydd.
14.4Pan fydd ymgeisydd yn aelod o staff y Brifysgol adeg yr arholiad, bydd y Bwrdd Arholi yn cynnwys yr unigolion canlynol:
Bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn gyfrifol am sicrhau bod yr arholwr neu arholwyr mewnol a’r arholwr neu arholwyr allanol yn derbyn copïau o’r traethawd ymchwil i’w arholi ynghyd ag unrhyw ddogfennau perthnasol eraill fel y nodir yn y Canllawiau ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil.