Diweddariad ar wasanaethau Llyfrgelloedd Parc Singleton a'r Bae
Gydag effaith o ddydd Llun 27ain Medi 2021, mae Llyfrgell Parc Singleton a Llyfrgell y Bae bellach ar agor ar gyfer mynediad at fannau astudio, parthau argraffu a phori drwy'r silffoedd llyfrau heb orfod cadw lle ymlaen llaw. Mae mannau astudio y gellir eu harchebu ymlaen llaw a'r gwasanaeth Cais a Chasglu hefyd ar gael.
Gweler isod am fanylion oriau agor y llyfrgell. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y llyfrgell ddangos cardiau adnabod staff/myfyrwyr wrth y mynedfeydd.
Os oes angen cymorth arnoch, cysylltwch â'r Tîm Gwasanaeth Cwsmer drwy ffôn, e-bost neu sgwrs fyw.