Cynlluniau benthyca, adnoddau ar-lein a Wi-Fi ar gyfer ymwelwyr

Mynediad at ein Hadeiladau Llyfrgell

Mae Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe yn bennaf at ddefnydd myfyrwyr a staff presennol Prifysgol Abertawe.  Rydym yn caniatáu mynediad i'n llyfrgelloedd ar Gampws Singleton a Champws y Bae ac i Lyfrgell Glowyr De Cymru i'r gymuned ehangach sydd am ddefnyddio ein hadnoddau at ddibenion academaidd ac ymchwil.  Mae cyfyngiadau ar fynediad a rhestrir y rhain isod.

Caiff ymwelwyr allanol ymweld â llyfrgelloedd Campws Singleton neu Gampws y Bae neu Lyfrgell Glowyr De Cymru yn ystod yr oriau agor pan fydd staff ar ddyletswydd a nodir ar ein tudalennau gwe Oriau Agor a Lleoliadau Llyfrgelloedd ar gyfer pob safle llyfrgell penodol.  Mae Llyfrgell Parc Dewi Sant ar agor pan fydd staff ar ddyletswydd at ddibenion cyfeirio yn unig. Rhaid i ymwelwyr ag Archifau Richard Burton wneud apwyntiad cyn eu hymweliad.

Myfyrwyr a Staff Prifysgol Abertawe

  • Mae gan staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe fynediad llawn yn awtomatig at adnoddau, cyfleusterau a gwasanaethau ein llyfrgelloedd yn ystod yr oriau agor cyfredol.
  • Bydd angen i chi gyflwyno eich cerdyn adnabod yn y Brifysgol - hwn fydd eich cerdyn llyfrgell hefyd - wrth fynd i mewn i'r adeilad neu pan fydd aelod o staff y Llyfrgell yn gofyn i chi ei ddangos.

Defnyddwyr nad ydynt yn Aelodau Staff neu'n Fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe

  • Y cyhoedd: Mae cynllun dwyochrog Pasbort Llyfrgelloedd Ynghyd yn caniatáu i unrhyw aelod o wasanaethau llyfrgell cyhoeddus Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Powys a Sir Benfro fenthyca adnoddau am ddim yn llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe a llyfrgelloedd addysg bellach ac addysg uwch eraill. Os nad ydych yn aelod eisoes, ewch i'ch llyfrgell gyhoeddus leol i ymaelodi, a gofynnwch staff y llyfrgell gyhoeddus am ffurflen Pasbort Llyfrgelloedd Ynghyd. Bydd angen i staff y llyfrgell gyhoeddus rhoi stamp ar eich Pasbort Llyfrgelloedd Ynghyd, a gallwch chi ei ddod i gangen Llyfrgell Prifysgol Abertawe (ynghyd a'ch cerdyn llyfrgell gyhoeddus) er mwyn gofrestru gyda ni fel benthycwyr allanol. Gofynnir i chi cadw eich Pasbort Llyfrgelloedd Ynghyd gyda'i stamp yn barod i'w ddangos wrth i chi dod i mewn i'r adeilad.
  • Aelodau SCONUL: Mae Prifysgol Abertawe'n aelod o gynllun Mynediad SCONUL sy'n galluogi aelodau o brifysgolion eraill fenthyca adnoddau o'i llyfrgelloedd a'i chasgliadau.  Cysylltwch â'ch sefydliad eich hun i gael manylion am sut i gofrestru. Wedi i'ch cais Mynediad SCONUL cael ei ganiatáu gan eich sefydliad cartref, dylech gael e-bost/llythyr gadarnhad oddi wrth SCONUL a gallwch chi ei ddod i gangen Llyfrgell Prifysgol Abertawe (ynghyd a'ch cerdyn adnabod o'ch sefydliad cartref) er mwyn gofrestru gyda ni fel benthycwyr allanol. Gofynnir i chi cadw eich cerdyn adnabod o'ch sefydliad cartref yn barod i'w ddangos wrth i chi dod i mewn i'r adeilad.
  • Gall myfyrwyr a staff/ymchwilwyr o sefydliadau eraill gael mynediad i leoedd astudio'r llyfrgelloedd a defnyddio'r casgliad ar sail cyfeirio yn unig. Gofynnir i chi cadw eich cerdyn adnabod o'ch sefydliad cartref yn barod i'w ddangos wrth i chi dod i mewn i'r adeilad. Os ydych am fenthyg adnoddau'r llyfrgell, bydd angen i chi gofrestru gyda'r cynllun Mynediad SCONUL a nodir uchod.
  • Caiff myfyrwyr ysgol a choleg 16 oed ac yn hŷn ddefnyddio ein llyfrgelloedd i gefnogi eu hastudiaethau, drwy'r cynllun Pasbort Llyfrgelloedd Ynghyd a nodir uchod. Gall myfyrwyr Coleg Gwyr cael Pasbort Llyfrgelloedd Ynghyd o lyfrgell y coleg neu'r llyfrgell gyhoeddus. Gall myfyrwyr ysgol 16 oed ac yn hŷn cael Pasbort Llyfrgelloedd Ynghyd o'r llyfrgell gyhoeddus.
  • Gall cyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe ddefnyddio'r llyfrgelloedd drwy'r cynllun Llyfrgelloedd Ynghyd a nodir uchod.
  • Mae croeso i ffoaduriaid a cheiswyr lloches ddefnyddio ein llyfrgelloedd drwy'r cynllun Llyfrgelloedd Ynghyd a nodir uchod.

Mynediad cyfyngedig yn ystod cyfnodau adolygu ac arholiadau

 

Yn ystod cyfnodau adolygu ac arholiadau, bydd mynediad yn gyfyngedig i fyfyrwyr a staff Prifysgol Abertawe ac aelodau Mynediad SCONUL o sefydliadau eraill yn unig. Gwiriwch ein tudalennau gwe Oriau Agor a Lleoliadau Llyfrgelloedd, neu'r adran Dyddiadau Mynediad Cyfyngedig i'r Llyfrgell isod, am restr o'r dyddiadau hyn. Mae'n bosib y bydd rhaid i ni gyfyngu ar fynediad i'n llyfrgelloedd ar adegau allweddol eraill yn ystod y calendr academaidd, felly mae'n syniad da edrych ar ein tudalennau gwe cyn pob ymweliad.  Yn ystod y cyfnodau hyn, bydd ymchwilwyr yn dal i allu ymweld â Llyfrgell Glowyr De Cymru ac Archifau Richard Burton drwy apwyntiad.

Gwybodaeth gyffredinol i ymwelwyr

  • Gofynnir i ymwelwyr â'r llyfrgelloedd barchu adeilad ac adnoddau'r llyfrgell a'i staff a'i hymwelwyr. Rhoddir blaenoriaeth i'r rhai sy'n defnyddio mannau astudio at ddibenion academaidd ac ymchwil.
  • Disgwylir i ymwelwyr â'r llyfrgell ofalu am eu heiddo personol a pheidio â'i adael heb sylw yn y llyfrgell.  Nid yw Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe'n gyfrifol am unrhyw golled, lladrad neu ddifrod i eiddo personol.
  • Yn unol â pholisi Prifysgol Abertawe ynghylch Plant ar Fangreoedd y Brifysgol, rhaid i ymwelwyr dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn bob amser.
  • Mae ein Polisi ynghylch Ymwelwyr Allanol i Lyfrgelloedd Prifysgol Abertawe ar gael yn gyfan yma: Polisi Llyfrgell Prifysgol Abertawe ynghylch Ymwelwyr Allanol