Mae ardaloedd dynodedig ar gyfer dychwelyd eitemau trwy hunanwasanaeth wedi'u lleoli o fewn mynedfa Llyfrgell Parc Singleton, Llyfrgell y Bae, Llyfrgell y Glowyr De Cymru a Llyfrgell Parc Dewi Sant. Cyfeiriwch at yr arwyddion lleol a dilynwch y cyfarwyddiadau sydd mewn lle.
Gallech ddychwelyd eitemau i unrhyw un o'r Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe canlynol, pa un bynnag o'r pum llyfrgell wnaethoch eu benthyg o yn wreiddiol:
- Llyfrgell Parc Singleton
- Llyfrgell y Bae
- Llyfrgell Glowyr De Cymru
- Llyfrgell Banwen
- Llyfrgell Parc Dewi Sant
Gwiriwch yr oriau agor cyfredol ar gyfer y llyfrgell rydych chi am ymweld â hi. Ni ellir dychwelyd eitemau i'r llyfrgell tra bod yr adeiladau ar gau.
Ni ellir dychwelyd yr eitemau canlynol trwy'r terfynellau hunan-ddychwelyd electronig a rhaid ei ddychwelyd iddesg y llyfrgell yn ystod oriau agor a staff:
- Gliniaduron ac offer TG neu glyweledol arall
- Disgiau meddalwedd
- Allweddi ystafell
- Eitemau benthyciad byr
- Benthyciadau rhyng-lyfrgell
- DVDs aml-ddisg
- Llyfrau gyda disgiau cysylltiedig
Codir dirwyon os ydych yn dychwelyd eitemau ar ôl y dyddiad dychwelyd. Mae dirwyon hwyr yn berthnasol i bob dosbarth benthycwyr, gan gynnwys staff academaidd.