Ym 1961, roedd y System Rhannu Amser Gyfatebol (CTSS) yn system amlddefnyddiwr boblogaidd, ond roedd diffyg nodweddion ganddi ar gyfer caniatáu cyfathrebu uniongyrchol.Fodd bynnag, tynnodd defnyddwyr y system sylw at yr angen hwn, a datblygu system ad-hoc ar gyfer anfon negeseuon i’w gilydd drwy ysgrifennu ffeiliau mewn cyfeiriadur cyffredinol gydag enw’r derbynnydd. Nid oedd hyn yn ddiogel – gallai unrhyw ddefnyddiwr ddarllen unrhyw negeseuon e-bost, ni waeth y derbynnydd y bwriadwyd eu hanfon ato.
Y cynnig cyntaf a ddogfennwyd ar gyfer system ffurfiol o anfon negeseuon oedd ‘Programming Staff Note 49’ gan Louis Pouzin, Glenda Shcroder a Pat Crisman ym 1964. Roedd hyn yn cynnig gorchymyn MAIL i weithredwyr hysbysu defnyddwyr am ddigwyddiadau.
Ym 1965, rhoddodd Noel Morris a Tom Van Vleck y gorchymyn MAIL ar waith. Er mai bwriad y cynnig gwreiddiol oedd i weinyddwyr ei ddefnyddio i anfon negeseuon at ddefnyddwyr, roedd ei weithredu’n galluogi defnyddwyr i anfon negeseuon at unrhyw ddefnyddiwr. Roedd angen defnyddio’r rhaglen MAIL mewn modd breiniol i’w gefnogi (cyfwerth ag UNIX setuid). Roedd ei nodweddion yn debyg i’r protocol post anffurfiol gwreiddiol. Roedd gan bob defnyddiwr ffeil blwch negeseuon e-bost a oedd yn cynnwys y negeseuon e-byst a oedd yn cyrraedd. Yn y system newydd, dyma ffeil breifat y gallan nhw yn unig ei darllen. Roedd y gorchymyn MAIL yn galluogi defnyddwyr mympwyol i atodi negeseuon i’r ffeil hon.
System arall a ddefnyddiwyd i gyfathrebu rhwng defnyddwyr oedd y gorchymyn .SAVED.Roedd hyn yn galluogi defnyddwyr i ysgrifennu negeseuon yn uniongyrchol ar derfynellau defnyddwyr eraill.Addaswyd y system hon i anfon hysbysiadau o e-byst newydd. Pan ddefnyddiwyd y gorchymyn MAIL, yn gyntaf, byddai’n ychwanegu’r neges at ffeil blwch negeseuon e-bost y derbynnydd, ac yna’n ysgrifennu neges at ei derfynell (os oedd wedi mewngofnodi) i roi gwybod iddo fod ganddo e-bost newydd.Dyma ddatblygiad pwysig o’r system ad-hoc hŷn, oherwydd ei fod yn rhoi uniongyrchedd i’r broses o ddarparu negeseuon e-bost electronig nad oedd yn bodoli o’r blaen.Nid oedd angen i ddefnyddiwr wirio ei ffeil negeseuon e-bost bob hyn a hyn mwyach i weld a oedd negeseuon newydd.
Roedd cyfrifiaduron yr oes hon yn beiriannau mawr a oedd â llawer o ddefnyddwyr yn gysylltiedig â nhw drwy derfynellau. Prin iawn roeddent wedi’u cysylltu â pheiriannau eraill. Defnyddiwyd negeseuon e-bost mewn ffordd debyg iawn i bost mewnol mewn sefydliad. Ni chafodd y systemau hyn eu hehangu i gefnogi rhwydweithiau nes 1971. Addasodd Ray Tomlinson y rhaglen negeseuon e-bost i anfon e-byst at beiriannau eraill drwy ARPANET - y system a fyddai’n datblygu i’r fewnrwyd yn ddiweddarach. Dyma’r defnydd cyntaf o’r arwydd @, a ddefnyddiwyd i ddynodi defnyddwyr @ (at) gyfrifiadur.
Yn y 1970au, gwelwyd y rhaglen anfon negeseuon gwib gyntaf. Ystyriwyd e-byst fel systemau anfon negeseuon anghydamserol - i gymryd lle llythyrau nad oedd disgwyl ymateb ar unwaith iddynt. Rhannodd y rhaglen ‘talk,’ a ysgrifennwyd ar gyfer y PDP-11 a’i gludo i UNIX yn ddiweddarach, y sgrîn i ddau ddefnyddiwr. Roedd yn caniatáu i destun a deipiwyd gan un defnyddiwr ymddangos ar waelod ei sgrîn ef ac ar ben uchaf y defnyddiwr arall. Roedd gan derfynellau’r oes hon fecanweithiau rheoli syml iawn, ac roedd y sgwrs yn eithaf annibynadwy - os oes dau ddefnyddiwr yn teipio ar yr un pryd roedd yn gallu amharu ar ddangosydd y cyfrifiadur. Roedd y broblem hon yn fwy anghyffredin gyda therfynellau diweddarach a’r mecanweithiau rheoli uwch.
System gyfathrebu un i un oedd negeseuon e-bost gwreiddiol. Ym 1978, cyflwynodd Ward Christensen y System Bwletin Cyfrifiadurol (CBBS) yn Chicago. Roedd hyn yn cynnig system ar-lein a oedd yn gyfwerth â'r hysbysfwrdd cymunedol. Byddai defnyddwyr yn cysylltu â’r MODEMau, yn lanlwytho ffeiliau newydd ac yn casglu’r rhai hynny a oedd yno’n barod. Cynhaliwyd y system wreiddiol ar FODEM sengl, ac roedd angen i ddefnyddwyr gysylltu un ar y tro. Daeth system o’r fath yn gynyddol boblogaidd, ac yn y pendraw, fe’i datblygwyd i’r math o fforymau sy’n boblogaidd ar y we heddiw.
Roedd systemau hysbysfyrddau bwletin yn rhwydweithiau syml iawn - fel arfer roeddent yn cynnwys un gweinydd y gallai cleientiaid gysylltu ag ef yn uniongyrchol. Ar yr un pryd, roedd ARPANET yn datblygu saernïaeth peiriant cyfoedion i gyfoedion gyda systemau mawr mewn prifysgolion a llywodraethau yn cael eu cysylltu â rhwydwaith. Ym 1979, rhoddodd Tom Truscott a Jim Ellis o Brifysgol Duke, fath o fwrdd negeseuon ar waith gan ddefnyddio’r UNIX to UNIX Copy Procotol (UUCP). Roedd hyn yn galluogi defnyddwyr i roi negeseuon ar beiriant lleol a fyddai wedyn yn cael eu trosglwyddo i gyfrifiaduron eraill ar y rhwydwaith. Daeth pobl i wybod am hyn fel USENET, sef cwtogiad o’r rhwydwaith i ddefnyddwyr. Ym 1985, byddai UUCP yn cilio’n raddol o blaid y Protocol Trosglwyddo Newyddion dros y Rhwydwaith (NNTP), a ddyluniwyd o ddim byd i ledaenu negeseuon yn effeithiol yn y rhwydwaith hwn.
Ym 1995, dechreuodd Deja News gynnal archif o gynnwys USENET.Roedd eu mynegai yn cynnwys negeseuon o mor gynnar â 1981. Roedd hyn yn ddadleuol ar y pryd, oherwydd roedd llawer o bobl wedi anfon negeseuon at USENET dros y ddegawd flaenorol gan ddisgwyl i’w negeseuon ddiflannu.
Roedd cyfathrebu gwib rhwng defnyddwyr ar gyfrifiaduron ar y pryd yn gyfyngedig i’r ddau ddefnyddiwr a oedd yn sgwrsio, a gefnogid gan y rhaglen ‘talk.’Ym 1980, lansiodd rhwydwaith Compurserve raglen o’r enw CB Simulator. Yn ystod y cyfnod hwn, oherwydd bod yr Amrediad i Ddinasyddion (Citizens’ Band) yn cael ei ddadreoleiddio’n fwy, a bod costau offer radio’n lleihau, daeth radio CB yn fwy poblogaidd a nod Compuserve oedd manteisio ar hyn. Cyflwynodd y CB Simulator ryngwyneb sgwrsio syml yr oedd llawer o bobl yn gallu siarad â’i gilydd arno. Rhannwyd y system i sianeli, yn debyg i’r system CB go iawn (er iddynt gael eu hadnabod yn ôl enwau yn hytrach na rhifau). Byddai testun a nodwyd i un yn cael ei drosglwyddo i bob defnyddiwr arall yn yr un sianel. Mae’r rhyngwyneb hwn yn boblogaidd o hyd heddiw mewn systemau mwy modern megis Internet Relay Chat (IRC) a Secure Internet Live Conferencing (SILC). Ym 1991, byddai’r CB Simulator yn cynnal y briodas ar-lein gyntaf.
Roedd Compuserve yn gyfrifol am ddau newyddbeth arall mewn negeseuon e-byst electronig. Ym 1982, gwnaethant gyflwyno pont i e-byst ar y rhyngrwyd, a oedd yn galluogi defnyddwyr Compuserve i gyfnewid negeseuon e-bost â defnyddwyr y rhyngrwyd. Cyn hyn, roedd darparwyr gwasanaethau ar-lein wedi cynnal systemau e-bost preifat, a thanysgrifwyr i’r system yn unig a oedd yn gallu cyfnewid negeseuon e-bost. Arweiniodd hyn at orfodi pobl i gynnal sawl cyfrif e-bost gwahanol er mwyn gallu cyfathrebu â phawb. Yr ail ddatblygiad sylweddol gan Compuserve oedd cyflwyno e-byst testun cyfoethog ym 1992, gyda golygydd WYSIWYG.
Roedd anfon negeseuon gwib yn dilyn patrwm tebyg i e-bost.Quantum Link (a ddaeth yn AOL yn ddiweddarach) oedd y system gyntaf i ganiatáu negeseuon gwib. Roedd yn galluogi defnyddwyr Commodore-64 i gyfnewid negeseuon ym 1985. Ym 1996, cyflwynodd y cwmni o Israel Mirabilis yr ICQ (‘I seek you’) a ddaeth â negeseuon gwib i’r rhyngrwyd. O ganlyniad i’r doreth o systemau anfon negeseuon gwib a oedd yn anghydnaws â’i gilydd, datblygwyd protocol Jabber yn 2000. Cafodd hyn ei safoni gan Dasglu Peirianneg y Rhyngrwyd (IETF), fel yr Extensible Messaging and Presence Protocol (XMPP) yn 2004.Yn 2005, cyflwynodd Google Google Talk, sef gweithrediad masnachol o’r safon hon.
David Chisnall
Deunyddiau Darllen Pellach
Hanes post electronig, gan Tom Van Vleck
Hanes yr e-bost cyntaf a anfonwyd drwy rwydwaith, gan Ray Tomlinson