Ebley's Olympic Theatre

Strwythur dan gaeadau pren oedd Theatr Ebley ac roedd ganddi do cynfas a chadeiriau plygu cludadwy. Byddai’r theatr yn cael ei chludo o dref i dref gan wagenni a cheffyl.  Gwnaeth Theatr Ebley ymweld â llawer o rannau o Gymru gan gynnwys  Dowlais (1883), Maesteg (1896) a Phen-y-bont ar Ogwr (1906), lle cafodd y theatr ei hadeiladu yn y farchnad, ac yn Wrecsam, y Gelli, Pontycymer, Senghennydd a Chaerffili. Byddai’r teulu cyfan yn cymryd rhan yn y perfformiadau a byddai’r gynulleidfa’n mwynhau 3 awr o adloniant am 3 cheiniog. Yn ogystal â pherfformio, roedd gan yr actorion a’r actoresau ddyletswyddau eraill. Roedd yn rhaid i’r dynion adeiladu’r theatr a’i thynnu i lawr, gan ddilyn rheolau llym ym mhob lleoliad, tra byddai’r menywod yn trwsio gwisgoedd a gorchuddion. Byddai’r theatr yn aros mewn tref am rhwng dau a chwe mis yn perfformio drama wahanol bob nos. Byddai’r rhai a oedd yn perfformio yn y sioe yn aros mewn llety lleol ond roedd llety Mr Ebley yn cynnwys fan cysgu a fan byw a fyddai’n teithio gyda fe. Roedd y faniau wedi’u haddurno gyda gwydr patrymog, pren caboledig a gwaith pres a chan fod y theatr â chyflenwad trydan, byddai generadur injan nwy hefyd yn cael ei halio. 

I berfformio mewn tref roedd angen trwydded gan yr ynadon lleol ar yr Ebleys ac er mwyn cael y drwydded hon, roedd angen tystlythyrau cefnogol arnynt ynghylch eu moesoldeb. Yn aml byddai’r capeli’n ystyried y Theatr Gludadwy yn ddylanwad drwg ac felly byddent yn bygwth esgymuno aelodau pe baent yn mynychu perfformiad. Fodd bynnag, gwrthododd (Edward) Ted Ebley, ddygymod ag ymddygiad drwg a chafwyd adroddiad iddo adael y llwyfan yn ystod un perfformiad i guro pennau dau ymladdwr yn erbyn ei gilydd ac yna gwrthododd ddychwelyd i’w ran yn y sioe!

Yn aml byddai perfformiadau’n cael eu rhoi er budd elusen a ddewiswyd gan noddwr lleol, a fyddai felly’n hyrwyddo perchennog y Theatr fel unigolyn hael. Byddai’r noddwr yn mynychu’r noson agoriadol a byddai hefyd yn derbyn rhaglen a wnaed allan o sidan bur am hysbysebu’r ddrama ddiweddaraf.

Yn yr un modd â llawer o theatrau, daeth y Theatr Deithiol i ben o ganlyniad i’r Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd Theatr Olympaidd Ebley yn Abercynffig pan gychwynnodd y rhyfel a gadawodd yr holl ddynion a oedd yn actio yn y theatr er mwyn ymuno â’r rhyfel. Gadawyd Edward (Ted) Ebley a’i fab i dynnu’r theatr i lawr ar eu pennau eu hunain. Yna haliwyd y Theatr i Gwmafon lle cafodd ei rhentu i Gwmni Colisëwm Caerau a’i hagor fel sinema. Yn 1916 fe’i caewyd cyn cael ei hailagor dan enw Ebley. Yn 1927 agorodd y Sinema Olympaidd yn Ffordd Depot lle dangosid ffilmiau mud ac yna newidiodd i ddangos ffilmiau sain yn 1932. Yn 1970 daeth yn Neuadd Fingo Olympaidd ac yn 1980 gwnaeth Edward (Ted) Ebley werthu’r adeilad. Gyda hynny daeth cysylltiad teuluol hudol â hen fath o adloniant i ben.