Mae Casgliad Maes Glo De Cymru yn cynnwys llawer o ddeunydd sy'n ymwneud â streiciau ac anghydfodau yn y diwydiant glo, yn bennaf mewn perthynas ag undebau llafur megis Ffederasiwn Glowyr De Cymru  ac Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Glo (Ardal De Cymru).

Ceir deunydd hefyd sy'n ymwneud â chynnwrf cenedlaethol, yn ogystal ag anghydfodau undebau llafur eraill.

Yn ogystal â chofnodion ysgrifenedig, ceir casgliad sylweddol o ffotograffau yn yr archifau sy'n portreadu amrywiaeth o streiciau ac anghydfodau. Ategir hyn gan ddeunydd cyhoeddedig, hanesion llafar ac eitemau yn Llyfrgell Glowyr De Cymru.

May Day Pageant poster