Harry Dobson

Harry Dobson


Arddangoswyd y ffotograff hwn o Harry Dobson gan Weithwyr Cambrian Combine a chyfeillion fel arwydd o'u parch at ei 'Aberth Neilltuol dros Ddemocratiaeth'. Roedd Harry Dobson yn un o'r llu o Gymry a ymunodd â'r Brigadau Rhyngwladol er mwyn ymladd cynnydd ffasgiaeth yn Rhyfel Cartref Sbaen. Cafodd ei ladd ym Mrwydr Afon Ebro ym mis Gorffennaf 1938, ychydig dros flwyddyn ar ôl iddo gyrraedd Sbaen.

Mae gan yr Archifau un o'i lythyrau a anfonwyd o Sbaen ym 1937 hefyd. Mae ei lythyr yn cofnodi nad yw'r gwasanaeth post yn ddibynadwy ond: 'this is only to be expected as things cannot run smoothly in a war'. I ddechrau, mae'n gofyn nad oes dim yn cael ei anfon ato, ond mae'n newid ei feddwl ac yn cytuno i becyn o sigarennau Woodbine gael ei gynnwys yn y llythyr nesaf i'w anfon ato.

Mae Casgliad Maes Glo De Cymru yn cynnwys casgliad sylweddol o ddeunyddiau sy'n ymwneud â Rhyfel Cartref Sbaen a rôl gwirfoddolwyr o Gymru, yn eu plith llawer o lowyr o faes glo De Cymru a oedd yn weithgar yn wleidyddol. Mae hefyd yn cynnwys deunydd ynghylch ymateb rhai cymunedau glofaol i'r achos Gweriniaethol a'r gefnogaeth a ddarparwyd ganddynt.

Mae Casgliad Maes Glo De Cymru wedi'i rannu rhwng Archifau Richard Burton a Llyfrgell Glowyr De  Cymru, a chedwir eitemau gwahanol sy'n ymwneud â Rhyfel Cartref Sbaen yn y ddau leoliad.

Archifau Richard Burton:
Cardiau post, llythyrau a gohebiaeth arall rhwng unigolion a sefydliadau
Ffotograffau o unigolion a grwpiau a oedd yn rhan o'r gwrthdaro, gan gynnwys plant Basgaidd a oedd yn ffoaduriaid.
Llyfrau cofnodion a dogfennau eraill a oedd yn nodi ymateb sefydliadau megis Ffederasiwn Glowyr De Cymru i'r gwrthdaro.
Taflenni a hysbyslenni
Cofiannau
Llyfrau lloffion, cartwnau ac eitemau amrywiol eraill

Llyfrgell Glowyr De Cymru:
Hanesion llafar
Llyfrau a chylchgronau
Pamffledi
Posteri
Cyfweliadau ar fideo a recordiadau ffilm eraill

Am ganllaw manwl i'r deunydd sy'n ymwneud â Rhyfel Cartref Sbaen, cysylltwch â'r Archifau.