Mae gan y casgliadau yn yr Archifau symiau sylweddol o ddeunyddiau sy'n ymwneud â'r celfyddydau ac adloniant. Gellir dod o hyd i wybodaeth am ddifyrrwch, yn enwedig ym maes y celfyddydau ac adloniant, o fewn casgliadau amrywiol, ond mae gennym gasgliad ar wahân ar y theatr.

  • Y Casgliad Theatr

Mae'r casgliad hwn yn cynnwys deunydd sy'n ymwneud â Theatr Fach Abertawe c1933-1965; cynyrchiadau Prifysgol Cymru Abertawe; y theatr yn Llundain 1825-c1948; theatrau rhanbarthol 1821-c1980; 'Y Theatr Gludadwy' 1880-1949; Dylan Thomas a'i gysylltiad â'r theatr 1932-1934; cynyrchiadau teledu; amrywiaeth o eitemau heb ddyddiad (c 18fed ganrif) a 1905-1967.Mae rhagor o wybodaeth am y casgliad ar gael yn y catalog ar-lein.

  • South Wales Transport

Mae'r casgliad hwn yn cynnwys nifer sylweddol o eitemau sy'n ymwneud â hanes Pier y Mwmbwls o fewn yr adran ar Swansea and Mumbles Railway Limited, a oedd yn cynnwys Mumbles Railway and Pier Limited. Mae gweithredoedd eiddo, gohebiaeth a phapurau eraill yn manylu ar ddatblygiad y Pier a'r gweithgareddau a oedd yn cael eu cynnal yno. Am hanes cryno y pier a South Wales Transport, darllenwch 'Revisiting Mumbles Pier' ac, am ragor o wybodaeth am y casgliad, gweler y catalog ar-lein.

  • Casgliad Maes Glo De Cymru

Mae'r casgliad hwn yn cynnwys gwledd o ddeunydd am fywyd ym Maes Glo De Cymru, gan gynnwys nifer mawr o ffotograffau o weithgareddau hamdden, megis corau, bandiau a chymdeithasau dramatig yn ogystal ag eisteddfodau ac uchelwyliau glowyr. Mae cofnodion sefydliadau amrywiol yn cyfeirio at gymdeithasau drama ac opera a'u perfformiadau, er enghraifft, rhaglen ar gyfer Carmen gan Gymdeithas Opera Ystradgynlais a'r Rhanbarth ym mis Mai 1939. I gael rhagor o wybodaeth am ddifyrrwch ym Maes Glo De Cymru, gweler Deunyddiau'r Maes Glo ar y We.

Y Theatr Gludadwy

playbill extract


Adeiledd pren â chaeadau oedd Theatr Ebley. Roed ganddi do cynfas a seddau y gellid eu plygu a'u tynnu ymaith. Roedd wagenni a dynnid gan geffylau'n arfer cludo'r theatr hon o dref i dref. Ymwelai Theatr Ebley â llawer o rannau o Gymru. I gael perfformio mewn tref, roedd angen trwydded gan yr ynadon lleol ar y teulu Ebley, ac i gael hon, roedd angen iddynt ddarparu geirdaon i dystio i'w rhinweddau moesol.

Roedd perfformiadau'n cael eu cynnal yn aml er budd elusen i'w dewis gan noddwr lleol, gan hyrwyddo natur elusennol perchennog y Theatr. Byddai'r noddwr yn dod i'r noson agoriadol ac yn derbyn hysbyslen o sidan pur a oedd yn hysbysebu'r ddrama a oedd i'w pherfformio ar y pryd.