Research as Art image

Archifau Richard Burton yw cof corfforaethol ac ystorfa archifau Prifysgol Abertawe ac maent yn dal deunydd o arwyddocâd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae’r Archifau’n dethol ac yn diogelu’r holl gofnodion o werth hanesyddol a grëwyd neu a ddaeth i feddiant y Brifysgol ac maent yn gwneud yn siŵr bod y cofnodion hyn yn hygyrch i bawb. Trwy eu daliadau ac arbenigedd y staff, mae’r Archifau’n cefnogi’n weithredol genhadaeth y Brifysgol i ddarparu amgylchedd o ragoriaeth ymchwil, i ddarparu profiad rhagorol i fyfyrwyr gydag addysgu o’r ansawdd uchaf, ac i gyfoethogi bywyd cymunedol a diwylliannol Cymru a thu hwnt.

Dyma oriau agor ein hystafell ddarllen:

Dydd Mawrth 9.15yb-4.15yh
Dydd Mercher 9.15yb-4.15yh 
Dydd Iau 9.15yb-4.15yh
 
Rhaid trefnu apwyntiad ymlaen llaw i ymweld â'r Archifau - cysylltwch â ni drwy e-bostio archives@abertawe.ac.uk neu drwy ffonio 01792 295021 er mwyn trefnu apwyntiad. Rydym yn gofyn i ddarllenwyr roi manylion am y deunyddiau y maent am eu defnyddio o leiaf dri diwrnod gwaith cyn ymweld. Mae'r Swyddfa Archifau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener ar gyfer ymholiadau cyffredinol.
 

Darganfod mwy am yr archifau ar ein blog!