Mae Gwasanaeth Cerdd Prifysgol Abertawe yn bodoli i gefnogi a datblygu bywyd cerddorol Prifysgol Abertawe, mewn partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr a grwpiau allanol.

Mae'r gwasaneth cerdd yn...

  • Rheoli cyfleusterau, offer ac adnoddau eraill (ystafelloedd ymarfer, offerynnau, cerddoriaeth ddalen, ac ati);
  • Trefnu cyngherddau yn y Neuadd Fawr sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol a grwpiau myfyrwyr;
  • Trefnu gweithdai a dosbarthiadau meistr gyda gweithwyr proffesiynol sy'n ymweld;
  • Rhoi cymorth i ysgolheigion offerynnol a lleisiol;
  • Hyrwyddo cyfleoedd cerddorol y Brifysgol i ddarpar fyfyrwyr;
  • Darparu eiriolaeth a chynllunio strategol ar gyfer cerddoriaeth ar lefel reoli o fewn y Brifysgol.

Y cyfarwyddwr cerdd...

Mae'r Gwasanaeth Cerdd yn cael ei arwain gan y Cyfarwyddwr Cerdd, Dr Ian Rutt.

Organydd, pianydd ac arweinydd yw Ian (yn bennaf). Cafodd BMus gan y Royal Danish Academy of Music, Copenhagen, lle astudiodd gyda Hans Fagius, Bine Bryndorf, Sven-Ingvart Mikkelsen (organ), Nina Gade (piano), a Jan Scheerer (arwain corawl).

Dr Ian Rutt