Perfformiadau yn y Neuadd Fawr a'r Taliesin

Gall myfyrwyr fwynhau ystod eang o ddigwyddiadau diwylliannol o £5 yn unig yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin a’r Neuadd Fawr!

  • Mae Taliesin, sydd wedi ei leoli ar Singleton, yn cynnig disgownt gwych i’r myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn rhaglen prif ffrwd a ffilmiau arbenigol (£6), drama fyw, cerddoriaeth a dawns (£5*). Mae yna fargeinion i fyfyrwyr a darllediadau byw o leoliadau enwog ar draws y DU (£5 ar y drws).
  • Mae’r Neuadd Fawr ar Gampws y Bae hefyd yn gartref i raglen eang o gyngherddau byw a digwyddiadau llenyddol. Mae’r rhan fwyaf o docynnau myfyrwyr yn costio £5 yma ac mae’n bosib eu harchebu un ai yn Taliesin neu yn swyddfa’r Neuadd Fawr

Fel myfyriwr Prifysgol Abertawe, gallwch alw heibio Taliesin a chofrestru am gerdyn aelodaeth am ddim sy’n eich galluogi i fynd i’r 3 digwyddiad byw cyntaf am ddim!**

www.taliesinartscentre.co.uk

* Heblaw am ddigwyddiadau wedi eu llogi’n breifat; ** Mae’r cynnig arbennig hwn yn ddibynnol ar argaeledd.

Lleoliadau lleol eraill

Mae llawer o lefydd eraill lle gallwch glywed cerddoriaeth yn Abertawe...

  • Mae Neuadd Brangwyn, a leolir yn y Neuadd y Ddinas hanesyddol, yn un o neuaddau cyngherddau mwyaf cofiadwy'r DU, gan gynnig Paneli'r Ymerodraeth Brydeinig Frank Brangwyn sydd bron yn seicadelig. Mae'r neuadd yn croesawu Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn rheolaidd (mae tocynnau rhad i fyfyrwyr ar gael) a chyngherddau organ amser cinio rheolaidd (mynediad am ddim). Mae manylion digwyddiadau yn Neuadd Brangwyn ar wefan Cyngor Abertawe: www.abertawe.gov.uk/digwyddiadauynybrangwyn
  • Mae Swansea Jazzland, yn yr Uplands, yn croesawu cerddorion rhagorol o bob cwr o'r DU ac ymhellach i ffwrdd yn rheolaidd. www.swanseajazzland.co.uk
  • Mae llawer o leoliadau bach sy'n cynnal perfformiadau o bob math yng nghanol y ddinas, yr Uplands a Brynmill. Chwiliwch ar gyfryngau cymdeithasol am yr wybodaeth ddiweddaraf: