coes prosthetig

Cau’r bwlch rhwng peirianneg a meddygaeth.

Gan gyfuno sgiliau dylunio a datrys problemau peirianneg â'r gwyddorau meddygol, mae'r maes astudio hwn yn ceisio gwella triniaeth gofal iechyd, gan gynnwys diagnosis, monitro a therapi. Mae ysbytai’n defnyddio amrywiaeth o gyfarpar meddygol sy’n cynyddu’n fwyfwy, gan gynnwys dyfeisiau syml megis nebiwlyddion (a ddefnyddir i drin cleifion resbiradol) a thechnoleg soffistigedig a blaenllaw megis cyflymyddion llinol radiotherapi ar gyfer triniaethau canser. Afraid dweud y mae’n rhaid i’r holl gyfarpar weithio’n effeithiol a bod yn hawdd ei ddefnyddio er mwyn trin cleifion yn briodol. Dyma rôl staff gwyddoniaeth gofal iechyd sy’n gweithio ym maes peirianneg feddygol.

Fodd bynnag, mae hyn yn cynnwys mwy na gwiriadau diogelwch a gwaith cynnal a chadw’n unig. Yn ogystal â glynu wrth safonau diwydiannol perthnasol, mae peirianwyr meddygol yn chwarae rôl yn ystod cylchred oes gyfan cyfarpar, gan gynnwys cyflwyno dyfeisiau newydd i wasanaethau, cynghori ar ddefnyddio cyfarpar yn y ffordd gywir, ymdrin â phroblemau diogelwch cleifion a gwaredu hen ddyfeisiau sydd wedi’u datgomisiynu.

Mae Peirianneg Feddygol yn faes cyffrous ac amrywiol sy'n cynnig cyfleoedd i chi ddefnyddio'ch arbenigedd mewn Peirianneg Drydanol neu Fecanyddol i ymgymryd â thasgau megis addasu neu adeiladu cyfarpar. Mae'n rôl ymarferol lle byddwch yn dod ar draws amrywiaeth eang o gyfarpar mewn ysbytai neu'n cael cyfle i arbenigo mewn mathau penodol.