Ymunwch â ni yn y Ffowndri Gyfrifiadol i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod â sgwrs gan Tori James.
- Dyddiad: Dydd Mawrth 7 Mawrth
- Amser: 1.00pm
- Lleoliad: Y Crwsibl Ymchwil, y Ffowndri Gyfrifiadol, Campws y Bae Prifysgol Abertawe
- Lluniaeth: Te'r prynhawn - dewis o frechdanau, cacennau, sgons a the neu goffi
- CROESO I BAWB
Tori yw'r Gymraes gyntaf i ddringo Mynydd Everest. Bu'n aelod o'r tîm benywaidd cyntaf i sgïo i Begwn Magnetig y Gogledd mewn her begynol 360 milltir, ac mae ganddi'r record am y daith hiraf ar y môr agored mewn caiac yn nyfroedd y DU.
Dros yr 20 mlynedd diwethaf mae Tori wedi ymgymryd â rhai o heriau dygnwch mwyaf eithafol y byd, gan osod llawer o recordiau a chyflawni'r hyn y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn ei ystyried yn amhosibl, gan gynnwys goroesi'r parth marwolaeth ar Fynydd Everest a rasio ar draws rhew môr yn yr Arctig.
Rydym yn falch iawn o'i chroesawu i'r Ffowndri Gyfrifiadol i'n hysbrydoli â'i straeon am heriau yn yr eithafion, a'n grymuso i oresgyn rhwystrau a chyflawni pethau anhygoel – i gamu y tu allan i'ch parth cysur a chyflawni'r anghyraeddadwy.
Mae croeso mawr i bob myfyriwr ac aelod staff ymuno.
Er mwyn cadw eich lle, cliciwch yma.