Prosiect Telesgôp Faulkes

Prosiect allgymorth addysgol yw Prosiect Telesgôp Faulkes, sydd â'r nod o ennyn brwdfrydedd myfyrwyr ysgol mewn STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) gan ddefnyddio seryddiaeth fel y bachyn. Drwy ein partneriaeth ag Arsyllfa Las Cumbres, rydym yn rhoi mynediad am ddim i rwydwaith byd-eang o delesgopau robotig, ar gyfer addysg, i ysgolion ledled y DU ac Ewrop. Rydym hefyd yn cynnig DPP, adnoddau ystafell ddosbarth, a chyngor a chymorth i athrawon, am ddim, ar bob agwedd ar ddefnyddio seryddiaeth yn eich ystafell ddosbarth.

Mae Prosiect Telesgôp Faulkes yn dod â'r Bydysawd i'ch ystafell ddosbarth, gan alluogi disgyblion i wneud ymchwil go iawn gyda seryddwyr. Gall ysgolion ddarganfod uwchnofâu newydd, dal comed a syllu ar alaethau – gallant estyn am y sêr yng ngwir ystyr y geiriau!

I gael rhagor o wybodaeth am Brosiect Telesgôp Faulkes, gweler: www.faulkes-telescope.com

Cyswllt: Dr Sarah Roberts