Mae’r Ganolfan Genedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Lles Poblogaethau (NCPHWR) yn ymgymryd ag ymchwil i wella iechyd a lles pobl yng Nghymru.

Mae gennym ddau brif faes ymchwil:

  • Datblygiad iach – deall achosion a chanlyniadau iechyd gwael, salwch, anafiadau a lles, gyda ffocws ar roi dechrau da mewn bywyd i blant a phobl ifanc a lleihau anghydraddoldeb.
  • Heneiddio’n iach – gwella gweithgareddau corfforol a lles i’r boblogaeth gyffredinol. Mae’r meysydd allweddol o waith yn cynnwys arthritis, asthma, anhwylderau cardiofasgwlaidd, heintiau ac anafiadau.

 Rydym yn dod ag academyddion, y GIG, y trydydd sector, llunwyr polisi, ymarferwyr a’r cyhoedd ynghyd er mwyn:

  • datblygu gallu ymchwil
  • cyd-gynhyrchu astudiaethau ymchwil
  • cynyddu incwm ymchwil ar gyfer Cymru
  • cynhyrchu tystiolaeth ar gyfer polisi ac ymarfer iechyd cyhoeddus yng Nghymru a’r tu hwnt.

Rydym yn cael ein hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac mae ein cenhadaeth wedi’i halinio â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ynghyd â blaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru ym maes gofal iechyd darbodus, iechyd cyhoeddus, strategaethau’r blynyddoedd cynnar a gofal cymdeithasol.

Mae’r Ganolfan Ymchwil i Iechyd a Llesiant y Boblogaeth wedi derbyn dyfarniad gwerth £1.5 miliwn gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

AM FWY O WYBODAETH AM NCPHWR

@NCPHWR_Wales