Gwella Gofal Cleifion gydag Ymchwil Canser

Bydd canser yn effeithio ar hanner poblogaeth y DU yn y blynyddoedd sydd i ddod, a bydd llawer o bobl yn marw o ganlyniad i'r clefyd gan ei fod yn tueddu i ddod i'r amlwg yn hwyr, ac oherwydd diffyg opsiynau therapiwtig. Felly, mae ymchwilwyr yn yr Ysgol Feddygaeth yn mynd ati i astudio'r clefyd hwn er mwyn deall yn well sut mae'n gweithio, datblygu marcwyr diagnostig gwell a dod o hyd i lwybrau therapiwtig newydd er mwyn gwella canlyniadau i gleifion.

Cancer Cell Image

Mathau O Ymchwil I Ganser A Wneir Yn Yr Ysgol Feddygaeth

Rydym yn parhau i arfer dulliau amlddisgyblaethol i ddatrys y problemau sy'n gysylltiedig â chanser. Rydym yn gweithio gyda chlinigwyr (oncolegwyr, gastroenterolegwyr, llawfeddygon, patholegwyr ac endocrinolegwyr), yn ogystal â ffisegwyr, gwyddonwyr data, peirianwyr a mathemategwyr. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda diwydiant (mawr a bach) er mwyn ysgogi datblygiadau arloesol newydd ym maes canser.

Canlyniadau Ymchwil

Nod ein hymchwil i ganserau yw ei throi'n driniaethau. Ar yr un pryd, rydym yn gweithio i sicrhau bod ein hymchwil yn ehangu dealltwriaeth wyddonol o Ganser, sut y gellir ei drin a chanfod llwybrau tuag at ddiagnosis cynnar. Mae ein timau ymchwil yn gweithio i ddefnyddio biofarcwyr yn y gwaed i nodi presenoldeb canser yr oesoffagws, trin bacteria er mwyn targedu a thrin canserau ac astudio afreoleidd-dra signalu mewn celloedd tiwmorau. Mae ein prif feysydd ymchwil yn canolbwyntio ar ffyrdd o wella iechyd a llesiant cleifion.

Research on research bench with Pippet

Coluddion Mini’ Sy'n Dod O Gleifion

Delwedd gan Angharad Walters

Cancer Cells

Prosesau Datblygu Canser Y Coluddyn Mewn Syndromau Tiwmorau Etifeddol

Mae diffygion y celloedd llinach yng ngenynnau APC a MUTYH yn achosi'r syndromau polypedd etifeddol Polypedd Tyfiannol Etifeddol (FAP) a Polypedd sy'n Gysylltiedig â MUTYH (MAP). Mae cleifion â'r syndromau hyn yn wynebu risg uchel iawn o ddatblygu canser y coluddyn. Mae'r ymchwil hon sy'n canolbwyntio ar y claf yn cyfuno arbenigedd academaidd rhyngwladol, geneteg diwydiant a'r GIG, gastroenteroleg a gwasanaethau llawfeddygol. Drwy gyfuno dadansoddiadau rhagolygol o ddata endosgopig, dadansoddiadau genomig a modelau 3D organoid, gellir sicrhau dealltwriaeth well o hanes naturiol ac achosion genetig syndromau polypedd etifeddol. Bydd y gwaith hwn yn nodi unigolion sy'n wynebu risg uchel o ddatblygu canser ac yn arwain at welliannau o ran rheolaeth glinigol a datblygu therapïau personol newydd sy'n targedu genynnau.

Defnyddio Bacteria i Dargedu Tiwmorau

Bydd rhai bacteria ond yn tyfu mewn tiwmorau, nid mewn meinweoedd iach. Y rheswm dros hyn yw bod metabolaeth celloedd tiwmorau yn wahanol i fetabolaeth celloedd iach. Mae'r bacteria yn defnyddio'r maetholion a ddarperir gan y tiwmor er mwyn tyfu. At hynny, mae'r tiwmor yn gallu osgoi system imiwnedd y lletywr drwy ei llethu. Felly mae'r bacteria yn dwyn maetholion y tiwmor, a hefyd yn defnyddio'r tiwmor er mwyn cuddio rhag y system imiwnedd. Rydym yn defnyddio'r bacteria hyn sy'n targedu tiwmorau ac yn ymwthio i gelloedd, er mwyn anfon llwythi sytotocsig therapiwtig yn uniongyrchol i mewn i gelloedd tiwmorau. O ganlyniad i hynny, rhoddir terfyn ar luosi celloedd tiwmorau yn unig, nid celloedd iach.

Ein harbenigwyr ar ymchwil i ganser

Yr Athro Steve Conlan

Cadair Bersonol, Biomedical Sciences
+44 (0) 1792 295386
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Yr Athro Deya Gonzalez

Athro, Biomedical Sciences
+44 (0) 1792 295384
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig