Lansiwyd mewn partneriaeth gan Sefydliad TriTech a Chanolfan Technoleg Gofal Iec

Mae Her Technoleg Gofal Iechyd Sefydliad TriTech yn ddigwyddiad am ddim a fydd yn dod ag ymarferwyr proffesiynol ac academyddion gofal iechyd, a phartneriaid masnachol yn y sectorau digidol a thechnolegol ynghyd i ddatrys heriau o bob rhan o'r system iechyd a gofal yng Nghymru.

Mae'r Her Technoleg Gofal Iechyd yn gydweithrediad rhwng Sefydliad TriTech a Chanolfan Technoleg Gofal Iechyd Cyflymu yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.

Cofrestrwch eich lle nawr

Uchafbwynt yr Her fydd digwyddiad deuddydd ym mis Gorffennaf, lle caiff timau eu creu, syniadau eu sbarduno a chynhelir digwyddiad pitsio lle caiff ymgeiswyr gyfle i ennill cyfran o'r cyllid gwerth £80,000 i roi eich syniadau ar waith. Ariennir yr wobr ariannol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a bydd Canolfan Technoleg Gofal Iechyd Cyflymu yn darparu cyfraniad cyfatebol ar ffurf cymorth pwrpasol, yn amodol ar gymhwysedd y partneriaid.

Dyma sut mae'r Her yn gweithio:

Rydym yn chwilio am arloeswyr i ddatrys set o heriau a gaiff eu pennu gan y panel.

Mae croeso i unrhyw un gyflwyno syniad a nodi tîm o gydweithredwyr; y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw cyflwyno datrysiad ar ein tudalen we Simply Do.

Yna byddwn yn cysylltu â'r ymgeiswyr llwyddiannus a byddwch yn cyflwyno eich ateb/syniad ar ddiwrnod un, 14/09/21. Eich tasg chi wedyn fydd dod o hyd i gydweithredwyr, casglu aelodau eich tîm ynghyd a datrys yr Her cyn cyflwyno eich ateb terfynol wythnos wedyn, ar 23/09/21.

Mae gennym yr heriau, ac rydym yn chwilio am yr atebion.

Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i gydweithredu â phartneriaid o'r GIG a diwydiant er mwyn datblygu atebion neu gynhyrchion newydd a all gael effaith gadarnhaol ar y sector iechyd a gofal yng Nghymru.

  • Y dyddiad cau i gyflwyno atebion yw 03/09/21
  • Diwrnod un Her Technoleg Gofal Iechyd TriTech fydd 14/09/21
  • Cynhelir digwyddiad diwrnod dau ar 23.09/21
  • Derbynnir ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg
  • Rydym yn annog amgylchedd anffurfiol a diogel i feithrin meddylfryd arloesol ac atebion creadigol.

Mae'r digwyddiad deuddydd hwn yn gydweithrediad rhwng Sefydliad TriTech Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chanolfan Technoleg Gofal Iechyd Cyflymu Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, gyda chymorth Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Llywodraeth Cymru.