Gweinidog Swyddfa Cymru, David TC Davies yn ymweld â chanolfan arloesi Abertawe

Yn 2021, ymwelodd Swyddog Gweinidog Cymru, David TC Davies, â Chanolfan Technoleg Gofal Iechyd (HTC) Prifysgol Abertawe - sy'n rhan o raglen Cyflymu Cymru gyfan - i glywed am y gweithgareddau arloesi cydweithredol yn y sectorau iechyd a gwyddorau bywyd.

Cyfarfu Mr Davies ag aelodau o dîm HTC a roddodd wybod iddo am rai o'r prosiectau allweddol sydd ar y gweill, yr ymdrechion ar y cyd yn ystod y pandemig, a'r cyfleoedd sydd ar ddod yn y sector iechyd a gofal.

Welsh office minister visits HTC in Swansea University

Bargen Ddinesig Bae Abertawe

Trafodwyd hefyd sut y bydd arloesi carbon isel yn helpu Cymru i adeiladu'n ôl yn well ac yn wyrddach o'r pandemig Covid-19 a Bargen Ddinesig gydweithredol Bae Abertawe.

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn fuddsoddiad o hyd at £1.3 biliwn mewn portffolio o raglenni a phrosiectau mawr ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe – sy’n cynnwys Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe.

Mae’r Fargen Ddinesig yn cael ei hariannu, yn amodol ar gymeradwyo achosion busnes prosiect, gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a’r sector preifat.

Yn ystod oes 15 mlynedd y Fargen Ddinesig, bydd y portffolio buddsoddi yn rhoi hwb o leiaf £1.8 biliwn i’r economi ranbarthol, tra’n cynhyrchu mwy na 9,000 o swyddi.

Mae rhaglenni a phrosiectau’r Fargen Ddinesig yn seiliedig ar themâu allweddol gan gynnwys cyflymiad economaidd, gwyddor bywyd a llesiant, ynni, gweithgynhyrchu clyfar a digidol.

www.swanseabaycitydeal.wales