Cymrodoriaeth Hyfforddiant Gyrfa Trosglwyddo Technoleg ifeArc-AUTM.

Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Hyfforddiant Gyrfa Trosglwyddo Technoleg LifeArc-AUTM i Ffion Walters, sy'n astudio ei PhD yn Ysgol Peirianneg a Gwyddorau Cymhwysol a Chanolfan NanoIechyd Prifysgol Abertawe. 

Mae LifeArc wedi cadarnhau mai Ffion yw’r cymrawd cyntaf yng Nghymru yn ogystal â’r un cyntaf o Brifysgol Abertawe.

life arc logo

Gyrfaoedd mewn trosglwyddo technoleg

Mae Rhaglen Cymrodorion LifeArc-AUTM sy’n para blwyddyn yn galluogi gwyddonwyr bywyd academaidd, ar lefel ôl-raddedig neu ôl-ddoethurol, i ddatblygu’r sgiliau a'r wybodaeth i bontio i yrfaoedd ym maes trosglwyddo technoleg drwy gwricwlwm sy'n cyfuno hyfforddiant ffurfiol â rhwydweithio, mentora a phrofiad ymarferol yn y maes. Mae cymrodorion y gorffennol wedi mynd ymlaen i rolau trosglwyddo technoleg blaenllaw. 

Datblygwyd y rhaglen gymrodoriaeth gan gydweithrediad rhwng LifeArc a Sefydliad Rheolwyr Technoleg Prifysgolion (AUTM), a chaiff ei chyflwyno ganddynt hefyd. 

Hyd yn hyn, mae'r rhaglen wedi hyfforddi 29 o gymrodorion o 7 wlad Ewropeaidd i fod yn weithwyr proffesiynol ym maes trosglwyddo technoleg. 

Eleni, mae'r garfan yn cynnwys 11 o gymrodorion o 4 wlad Ewropeaidd. 

Dywedodd Ffion Walters: 

"Mae hwn yn gyfle gwych, nid yn unig i gynyddu fy ngwybodaeth am agweddau damcaniaethol ac ymarferol trosglwyddo technoleg, ond mae hefyd yn cynnig cyfle prin i mi gwrdd â gweithwyr proffesiynol profiadol ym maes trosglwyddo technoleg yn y DU a thramor a dysgu ganddynt.  

"Bydd y gymrodoriaeth hon yn hynod werthfawr i mi allu datblygu fy mhrofiad er mwyn cyflawni fy nodau gyrfa hirdymor ym maes trosglwyddo technoleg a masnacheiddio cynnyrch arloesol ym meysydd y gwyddorau bywyd a biotechnoleg".  

Dywedodd yr Athro Owen Guy – Pennaeth Cemeg, Prifysgol Abertawe: 

"Mae hwn yn gyfle hynod gyffrous i Ffion, a fydd yn datblygu ei set o sgiliau ym maes trosglwyddo technoleg, masnacheiddio ac fel arloeswr a fydd yn cyfrannu at ymchwil gydweithredol, y mae Prifysgol Abertawe yn enwog amdani." 

Dywedodd Dr Anji Miller – Uwch-reolwr Busnes, Trosglwyddo Technoleg yn LifeArc: 

“Mae llwyddiant y rhaglen hon yn seiliedig ar bob cymrawd yn deall y sector trosglwyddo technoleg a datblygu ei sgiliau a'i wybodaeth i fynd i'r afael ag anghenion y sector. Rydym ni wrth ein boddau i groesawu Ffion i rhaglen Cymrodoriaeth Trosglwyddo Technoleg LifeArc AUTM ac edrychwn ymlaen at weithio gyda hi i'w galluogi i gyrraedd ei photensial llawn yn y maes hwn." 

Mae Ffion Walters hefyd yn Dechnolegydd Arloesi yn y Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd, ar Gampws Singleton Prifysgol Abertawe. 

Mae'r Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd (HTC) wedi'i harwain gan Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ac mae'n bartner balch yn rhaglen Cyflymu Cymru gyfan gwerth £24 miliwn. 

Mae’r HTC yn cefnogi gwaith i droi syniadau addawol o'r sectorau gwyddorau bywyd, iechyd a gofal yng Nghymru yn gynnyrch, yn brosesau ac yn wasanaethau newydd, gyda'r nod o greu gwerth economaidd hirhoedlog ar y cyd â buddion cymdeithasol ehangach.