Ymunwch â Hac Iechyd Cymru 2022

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Hac Iechyd Cymru yn dychwelyd ar gyfer ei 9fed digwyddiad, gan greu atebion newydd, arloesol i’r heriau a wynebir gan gydweithwyr ar draws gofal iechyd, y byd academaidd, a diwydiant.

Mae Hac Iechyd Cymru yn ysgogi ac yn cefnogi arloesedd i greu systemau, prosesau, arferion a dulliau gofal iechyd sy'n addas ar gyfer y dyfodol gyda chymorth technoleg.

Mae’n cynnig cyfle gwych i staff GIG Cymru, prifysgolion, a diwydiant rwydweithio a chydweithio i ddatblygu syniadau cyfnod cynnar a allai ddatrys heriau iechyd gweithredol a gynigir gan glinigwyr go iawn a gweithwyr iechyd yng Nghymru.

Rhwydweithio a chydweithio ag arbenigwyr arloesi ledled Cymru

Bydd 9fed Hac Iechyd Cymru yn digwydd ar-lein, gyda gosod heriau ar yr 16eg o Chwefror a pitsio atebion ar y 1af o Fawrth.

Bydd cyfranogwyr yn cael mynediad at arbenigwyr arloesi a fydd yn cynnig cyngor ar sut i symud atebion arfaethedig ymlaen, ynghyd â chael cyfle i sicrhau hyd at £20,000 fesul prosiect arloesi, o bot Llywodraeth Cymru o hyd at £250,000.

>>> Cyflwyno eich syniad <<<

Unwaith mae’r sialens wedi ei gymeradwyo a’i gyhoeddi (proses a all gymryd fyny at 5 diwrnod, felly diolch ymlaen llaw am fod yn amyneddgar), bydd cydweithwyr o iechyd, diwydiant ac academia yn cael y cyfle i’w weld ar y platfform, ac yn medru cychwyn trafodaeth hefo chi. Mae’r digwyddiad yma wir am cydweithio, ac rydym yn eich annog i wneud y mwyaf o hyn.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r her yw dydd Gwener 11eg Chwefror.

Oes gennych chi neu’ch tîm sialens iechyd a gofal sydd angen datrysiad arloesol? Os felly, medrwch ymuno gyda Hac Iechyd Cymru drwy cyflwyno’ch sialens yma: https://sdi.click/whh2022