Ein prosiectau

Mae prosiectau hir dymor gwerth aml-filiynau o bunnoedd gan gynnwys Accelerate, CALIN, Patrols, BUCANIER a Beacon yn gweithio gyda chwmnïau, y GIG a phartneriaid academaidd yng Nghymru, y Deyrnas Unedig ac Ewrop i gael effaith ar gymunedau gwyddor bywyd yn rhanbarthol ac yn rhyngwladol.

Y Gefnogaeth Fusnes a roddir i’n Prosiectau:

  • Sefydlu cysylltiadau rhwng y byd busnes a'r byd academaidd yng Nghymru
  • Datblygu cynnyrch a phrosesau newydd i hyrwyddo twf economaidd
  • Creu swyddi â sgiliau lefel uchel ym maes biodechnoleg wyrdd
  • Meddygaeth Fanwl
  • Meddygaeth Atgynhyrchiol
  • Gwerthusiad Biogydweddoldeb a Diogelwch

Cyflymu

Accelerate

Mae'r rhaglen CYFLYMU, sy’n werth £24 miliwn, yn dod â phrifysgolion, Byrddau Iechyd a'r Llywodraeth ynghyd i dyfu datblygiadau a chynaliadwyedd technolegol yn y sector technoleg gwyddor bywyd yng Nghymru. 

Ffocws Sector Allweddol: Technolegau Iechyd trwy'r Ganolfan Technoleg Iechyd (HTC)

Rhoi cymorth ym meysydd: Masnacheiddio trwy ddarparu technolegwyr arloesol i weithio wrth ochr partneriaid diwydiannol i

CYFLYMU

BEACON

BEACON

Mae BEACON yn fenter a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru sy'n arloesi'r dechneg bio-buro gan ddefnyddio deunyddiau planhigion neu 'fiomas' i newid dibynadwyedd y byd ar olew yn sylweddol.

Ffocws Sector Allweddol: Microfioleg, Biodechnoleg, Cemeg a Pheirianneg

Rhoi cymorth ym meysydd: Creu Eiddo Deallusol ac arloesed; cynnyrch a phrosesau newydd; effeithiolrwydd costau; optimeiddio prosesau; gwella perfformiad busnes a chynhyrchiant, a datblygu gwaith y sectorau gwahanol sy'n gysylltiedig â'r bio-economi.

BEACON

BUCANIER

BUCANIER

Sefydlwyd BUCANIER i gefnogi entrepreneuriaid, ymchwilwyr, mentrau bach a chanolig a mentrau cymdeithasol ar ffin Cymru-Iwerddon.

Ffocws Sector Allweddol: Bwyd a Diod, Gwyddorau Bywyd, ac Ynni Adnewyddadwy

Rhoi cymorth ym meysydd: Ymgynghori arloesol, cymhwyso arloesed yn seiliedig ar ddyluniad wrth brofi a chyflenwi cynnyrch newydd, a ffurfio clystyrau a rhwydweithiau traws-ffin i hyrwyddo trosglwyddo gwybodaeth.

BUCANIER 

CALIN

CALIN

Mae CALIN yn gweithredu ar draws de-orllewin Cymru a de-ddwyrain Iwerddon gan gynnig arbenigedd ymchwil a thechnegol, a mynediad at ei rwydwaith er mwyn cefnogi'r gwaith o ddatblygu busnesau gwyddor bywyd yn rhanbarth ffin Cymru-Iwerddon. 

Ffocws Sector Allweddol: Meddygaeth Atgynhyrchiol, Biosynwyryddion a Dyfeisiau, Gwerthusiad Biogydweddoldeb a Diogelwch, a Therapiwteg

Rhoi cymorth ym meysydd: Cysylltu arbenigwyr ymchwil a datblygu ym maes gwyddor bywyd a Chanolfannau Rhagoriaeth mewn 6 Phrifysgol yng Nghymru ac Iwerddon yn uno i gynnig cymorth technolegol ac i hwyluso cydweithredu.  

CALIN

Shaking hands in corridor
Dewch yn gyswllt