
Diwrnodau Agored Ôl-raddedig
Cadwch le NawrMae galwadau ac ymwybyddiaeth gynyddol o gymwysiadau nanodechnoleg ym maes Meddygaeth wedi arwain at ddatblygiad maes Nanofeddygaeth.Mae'r cwrs Nanofeddygaeth yn apelio at bob sector ym maes y gwyddorau bywyd.
Mae’r cynllun GIG yn amlygu’r llwybr i drawsnewid cyflenwi gwasanaethau a bodloni anghenion iechyd lleol yn well. Bydd astudio Nanofeddyginiaeth yn Abertawe yn rhoi’r sgiliau a’r hyder i chi ym maes arweinyddiaeth, rheoli, addysg ac ymchwil, tri o bedwar conglfaen o uwch ymarfer clinigol.
Bydd ein hymchwilwyr a'n hathrawon sy'n arwain y byd yn eich amlygu i ffarmacoleg, cynllunio cyffuriau, rheoli cleifion, bioddiogelwch yng nghyd-destun anatomeg a ffisioleg, clefydon dirywiol ac uwch beirianneg ar ffurf diagnosteg a delweddu.

Mae trosi llwyddiannus o nanoddeunyddiaeth i gymhwyso clinigol, llwybrau rheoleiddiol clir a dulliau arbrofi yn hanfodol o ran safon, diogelwch ac asesiadau effeithiolrwydd. Mae sbectrwm cyfan o randdeiliaid yn y diwydiant wedi arddel dulliau o’r fath, sy’n amlwg yn gydnaws a’n cwricwlwm MSc mewn Nanofeddygaeth. Felly, mae’r set sgiliau y mae’r cwrs yn ei ddysgu i chi yn ganolog i ragolygon cyflogadwyedd yn y sectorau biotech, cynllunio meddyginiaethau, dadansoddeg data a sefydliadau contract ymchwil a’r diwydiant fferyllol.

Y Dyfodol ym maes Nanofeddygaeth a Nanotechnolegau
Mae egwyddorion Nanofeddygaeth wedi’u hymwreiddio mewn ymarfer presennol a bydd at y dyfodol. Mae pob agwedd ar ddarpariaeth gofal iechyd yn ddibynnol ar dechnoleg, o ddiagnosteg a delweddu, a ddarparu gwybodaeth sy’n hanfodol i strategaethau rheoli cleifion, i’r technolegau fydd yn seilwaith i ddatblygiad a chyflenwi.
Bydd yr MSc yn darparu gwybodaeth ddofn ledled spectrwm Nanofeddygaeth, a’i swyddogaeth yn narpariaeth gofal iechyd at y dyfodol, ac yn rhoi’r sail i chi wella eich gyrfa at y dyfodol.

Dolenni Cyflym
Ewch ar Daith Rithwir ac archwiliwch drosoch eich hun
Edrychwch ar daith o 360o o'n campws a llety...